Ffydd, Gobaith, Cariad (albwm)
Pedwerydd albwm y gyfansoddwraig Fflur Dafydd yw Ffydd, Gobaith, Cariad. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2012 ar y label Rasal.
Ffydd, Gobaith, Cariad | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Fflur Dafydd | ||
Rhyddhawyd | Mehefin 2012 | |
Label | Rasal |
Mae Ffydd, Gobaith, Cariad yn ddatblygiad pellach yn y sŵn arbennig mae Fflur bellach wedi’i greu i’w hun. Mae’r casgliad yn un teimladwy sy’n cynnwys teyrngedau i nifer o bobl, ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y gân ‘Ray o’r Mynydd’ er cof am Ray Gravell a’i fersiwn gerddorol o lythyr Paul at y Corinthiaid, ‘Ffydd, Gobaith, Cariad’.
Dewiswyd Ffydd, Gobaith, Cariad yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
golyguMae’r traciau wedi’u trefnu’n wych a cheir y teimlad eu bod yn suddo mewn i’w gilydd i wneud un campwaith mawr.
—Ifan Edwards, Y Selar