Ray Gravell

actor, newyddiadurwr, chwaraewr rygbi'r undeb (1951-2007)

Roedd Ray William Robert Gravell (12 Medi 195131 Hydref 2007), yn chwaraewr rygbi, yn gyflwynydd radio, yn sylwebydd rygbi, ac yn actor. Roedd yn genedlaetholwr pybyr, yn edmygydd mawr o Dafydd Iwan, Carwyn James, ac o Owain Glyndŵr. Cysylltir y dywediad "West is Best" â Ray.

Ray Gravell
Ganwyd12 Medi 1951 Edit this on Wikidata
Cydweli Edit this on Wikidata
Bu farw31 Hydref 2007 Edit this on Wikidata
Calp Edit this on Wikidata
Man preswylCydweli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, actor, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd ef ym Mynydd-y-garreg ar bwys Cydweli, Sir Gaerfyrddin, lle cafodd ei addysg gynradd cyn mynd i Ysgol Fodern Porth Tywyn ac wedyn i Ysgol Ramadeg y Bechgyn. Pan oedd yn 14 mlwydd oed, bu farw ei dad Jack drwy hunanladdiad.[1]

Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Llanelli ym 1970, ac roedd yn gapten y tîm o 1980 i 1982. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ym 1982 a chwaraeodd ei gêm olaf i Lanelli ym 1985. Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Ffrainc ym Mharis ym 1975. Yn ystod ei yrfa, enillodd 23 cap dros Gymru. Roedd yn aelod o dîm Cymru a enillodd y gamp lawn ddwy waith, fel arfer fel canolwr ond weithiau fel asgellwr. Bu ar daith Y Llewod i Dde Affrica ym 1980 gan chwarae yn y pedair gem brawf. Bu'n Llywydd Clwb Rygbi Llanelli ac wedyn Clwb y Scarlets hyd ei farw.

Cafodd ran amlwg yn y ffilm Bonner a recordiwyd gan y BBC ar ran S4C, a hefyd yn y ffilm Owain Glyndŵr. Ymddangosodd mewn ffilm deledu y BBC o'r enw Filipina Dreamgirls, a chwaraeodd ran yn ffilm Louis Malle, Damage, yn Rebecca's Daughters ac fel Referee No. 1 yn y ffilm Up and Under.

Darlledu

golygu

Cyflwynodd raglenni sgwrsio rheolaidd ar BBC Cymru ac ar Radio Cymru. Tan ei farw, roedd yn cyflwyno ei raglen foreol ei hun o'r enw Grav ar Radio Cymru, a ddarlledwyd i orllewin Cymru. Roedd hefyd yn cyd-gyflwyno I'll Show You Mine gyda Frank Hennessy ar Radio Wales. Roedd hefyd tan ei farw yn aelod o dîm sylwebu rygbi Cymraeg y BBC ar gemau y Cynghrair Celtaidd, Cwpan Powergen, a'r Cwpan Heineken.

Bywyd personol

golygu

Roedd yn byw ym Mynydd-y-garreg, lle a'r oedd yn agos iawn at ei galon, gyda'i wraig Mari a'u dwy ferch, Gwennan a Manon. Roedd yn byw yn y stryd a enwyd ar ei ôl, sef Heol Ray Gravell.

Clefyd y Siwgr

golygu

Roedd Gravell yn dioddef o glefyd y siwgr ers 2000. Cyhoeddwyd ar 18 Ebrill 2007 y byddai'n rhaid iddo ddychwelyd i Ysbyty Glangwili ar ôl iddo gael llawdriniaeth fis blaenorol i dorri i ffwrdd dau fys traed,[2] a roedd rhaid iddo golli ei goes dde o dan y pen-lin.[3] Cafodd fynd adref ar y cyntaf o Fai ac wedi ail-ddechrau ar ei waith darlledu.

Marwolaeth

golygu
 
Carreg goffa i'r Ray Gravell, sy'n sefyll yn Mynydd-y-garreg, yn edrych dros Fae Caerfyrddin

Bu farw yn sydyn yn 56 blwydd oed ar 31 Hydref 2007, pan oedd ar ei wyliau yn Sbaen. Daeth rhai miloedd o bobl i'w angladd gyhoeddus ym Mharc y Strade, Llanelli, ar 15 Tachwedd 2007. Roedd baner Y Ddraig Goch ar ei arch, a gludwyd gan chwech o chwaraewyr rygbi Llanelli. Cafwyd teyrngedau gan y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, a'r hanesydd Hywel Teifi Edwards. Canwyd "Calon Lân" "Cwm Rhondda" a chaneuon Cymraeg eraill gan y dorf. Yn dilyn yr angladd gyhoeddus cafwyd angladd breifat i'r teulu yn unig yn Llanelli.[4]

Cynhaliwyd munud o dawelwch / gymeradwyaeth yng ngemau rygbi ar draws y DU, gan gynnwys gem Y Sgarlets yn erbyn Leeds, Y Gleision yn erbyn Caerlŷr,[5], a gemau'r Gweilch a'r Dreigiau.[angen ffynhonnell]

Ymgyrch 'Cwpan Ray Gravell'

golygu

Galwodd nifer o Gymry ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd i fuddugolwyr gemau rhyngwladol rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn "Gwpan y Tywysog William" ac yn galw am newid yr enw i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng iddo. Dadleuant fod enwi'r gwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn cwbl anaddas. Lawnsiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rugby hero's joy at being a dad made sense of his world , WalesOnline, 3 Ebrill 2004. Cyrchwyd ar 22 Gorffennaf 2022.
  2. Rugby legend readmitted after op (en) , BBC News – South West Wales, 18 Ebrill 2007.
  3. Rugby hero's right leg amputated (en) , BBC News – South West Wales, 19 Ebrill 2007. Cyrchwyd ar 18 Ebrill 2007.
  4. (Saesneg) Newyddion y BBC (15 Tachwedd 2007). BBC NEWS. BBC MMX. Adalwyd ar 4 Mai 2010.
  5. Wales' sporting weekend in photos BBC Sport. 02-11-2007. Adalwyd ar 04-05-2010