Ffynhonnau Llanddwyn

Mae llawer o ffynhonnau wedi eu lleoli o gwmpas Llanddwyn, ac mae ffynnon Dafaden yn un sydd wedi’i lleoli ar Ynys Llanddwyn yn Ynys Môn.

Ffynnon Dafaden

golygu

Mae’r ffynnon yn un droedfedd ar ddeg o hyd ac yn naw troedfedd a hanner o led. Mae gris yn arwain lawr o’r dŵr. Mae’r ffynnon yn sych erbyn hyn.

Yn ôl traddodiad roedd y ffynnon yn lle da i fynd i wella defaid ar groen. Dyna pam y gelwir yn Ffynnon Dafaden. Dyma ddyfyniad o’r llyfr Enwau Lleoedd Môn gan Gwilym Jones a Tomos Roberts. Mae’n disgrifio’r hyn a oedd yn mynd ymlaen pan oeddent yn rhoi dŵr o’r ffynnon ar ddafaden…

…pigid y ddafaden a phinau, gwthid y rhain i gorcyn a’i daflu i’r ffynnon, yna golchid y dwylaw yn nŵr y ffynnon a diflannai’r ddafaden.[1]

Mae rhai pobol yn meddwl mai corlan oedd safle’r ffynnon gan fod ffurf sgwâr iddi.[2] Ond nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn.

Ffynnon Fair

golygu

Mae ffynnon Fair wedi ei lleoli ar greigiau ynys Llanddwyn yn Ynys Môn. Ffynnon fechan ydy hi ac yn ôl traddodiad o’r ffynnon hon roedd Santes Dwynwen yn yfed ohoni. Roedd llawer o bererinion yn ymweld â’r ffynnon yn Llanddwyn yn ystod yr Oesoedd Canol oherwydd eu hafiechydon. Roedden nhw yn dod at y ffynnon i wella afiechydon yr ysgyfaint, poenau ar yr esgyrn a phliwrisi.

Dyma gywydd ysgrifennodd Syr Dafydd Trefor i Dwynwen yn sôn am ei heglwys a’i ffynhonnau.

Santes ym mynwes Menai

A'i thir a'i heglwys a'i thai

Ffynhonnau gwyrthiau dan go

Oer yw'r dyn ni red yno.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Enwau Lleoedd Môn gan Gwilym T. Jones a Tomos Roberts
  2. 2.0 2.1 Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)