Ffynhonnau Môn
Ceir llawer o ffynhonnau ar Ynys Môn a arferid eu defnyddio gan bererinion crefyddol a chleifion a oedd yn chwilio am wellhad i'w anhwylderau. Gan nad oes cymaint o fynd arnynt y dyddiau hyn, mae rhai mewn cyflwr truenus ac eraill wedi mynd ar goll.
Fel mannau eraill drwy Gymru, bu cysylltiad defedol i fanau lle roedd dŵr, gan gynnwys Llyn Cerrig Bach lle canfuwyd offer ac arfau metel wedi'u taflu'n fwriadol i'r llyn. Ni wyddwn pam fod y Celtiaid yn offrymu, fel hyn, na pha mor fywiog oedd y cwltau oedd yn gysylltiedig â nhw cyn i Gristnogaeth gyrraedd tua diwedd yr 2g OC. Gwyddom fod gan y Rhufeiniaid arferion tebyg ee canfuwyd penglog ddynol yn leinin ffynnon Rufeinig Odell, Swydd Rydychen. Arferiad tebyg oedd gadael pin wedi'i blygu neu ddarn o arian ar ôl yn y ffynnon ond ni wyddom i sicrwydd pam y gwnaed hyn: naill ai er mwyn cael gras Duw neu i wella o anhwylder, neu'r ddau.
Dyma ugain o ffynhonnau sanctaidd Môn, gyda phob un wedi'i chysegru i sant; yn aml, maen nhw i'w cael ger eglwys y sant hwnnw.
Lleoliad | Enw ffynnon | Cyfeirnod grid | Mapiau | Nodiadau | Llun |
---|---|---|---|---|---|
Ynys Gybi | Ffynnon Santes Wenfaen | 53°14′49″N 4°36′36″W / 53.247°N 4.61°W | Gwella'r felan | ||
Rhwng Carmel a Llanerch-y-medd | Ffynnon Gybi | 53°19′06″N 4°24′04″W / 53.318377°N 4.401175°W | Yn ôl un traddodiad dyma ble y cyfarfyddai'r seintiau Cybi a Seiriol ac nid ger Clorach. Mae yma lif cryf ac mae’n bosib bod yna waith cerrig yn dal i fodoli islaw’r dwr ond gan fod y ffynnon wedi gorlifo does dim modd gweld | ||
Cerrigceinwen | Ffynnon Cerrigceinwen | 53°14′13″N 4°21′49″W / 53.236817°N 4.363561°W | Amryw afiechydon. Roedd y Santes Ceinwen yn chwaer i Dwynwen. Mae’r eglwys mewn pant cysgodol a’r ffynnon ar y chwith ar waelod y bryn wrth fynd i lawr ati. | ||
Ger fferm Clorach Fawr, Clorach | Ffynnon Seiriol, Clorach | 53°19′50″N 4°19′56″W / 53.330474°N 4.332107°W | Yn ôl traddodiad, byddai’r saint Cybi a Seiriol yn cyfarfod â’i gilydd. Credid fod gwerth iachusol i ddŵr y ddwy ffynnon. Deuai’r cleifion at ffynnon Seiriol yn y nos a byddai’n arferiad cario’r dŵr oddi yno i’r rhai oedd yn rhyw wael i ddod at y ffynnon eu hunain. Byddai’r fan ger y ffynhonnau yn lle da i gariadol ddod i geisio cymodi ar ôl cweryl. | ||
Llanallgo | Ffynnon Allgo | 53°20′21″N 4°15′29″W / 53.339153°N 4.258133°W | Hen ffynnon baganaidd. Mae Ffynnon Allgo yng nghanol Maes Carafannau Glanrafon y drws nesaf i Faes Carafannau Home Farm, tua chwarter milltir y tu draw i Eglwys Sant Gallgo, Llanallgo, ar A5025. | ||
Llanbadrig | Ffynnon Badrig, Llanbadrig | 53°25′25″N 4°26′42″W / 53.423515°N 4.445075°W | Gwella'r crydcymalau, golwg gwan, anhwylderau’r stumog, y gymalwst, pendduynnod a’r ddannodd[1] | ||
Llanbedrgoch | Ffynnon Llanbedrgoch | 53°17′N 4°14′W / 53.29°N 4.23°W | Angen lleoliad union[2] | ||
Llanddona, dwyrain Traeth Coch | Ffynnon Oer | 53°18′46″N 4°08′01″W / 53.312676°N 4.133635°W | |||
Llanddwyn | Ffynhonnau Llanddwyn | 53°08′19″N 4°24′45″W / 53.138679°N 4.412428°W | Gwellâd o boenau yn yr esgyrn, pliwrisy ac afiechydon yr ysgyfaint, yn ogystal â rhai claf o gariad. ceir sawl ffynnon: Crochan Llanddwyn, Ffynnon y Sais, Ffynnon Fair a Ffynnon Dafaden (y Ffynnon Ddwynwen wreiddiol), ger yr Eglwys (defaid ar y croen). | ||
Llaneilian | Ffynnon Eilian | 53°24′42″N 4°18′16″W / 53.411568°N 4.304448°W | Arferid yfed dŵr y ffynnon ar 13 Ionawr (dydd Sant Eilian). Cedwid y rhoddion mewn cist yn yr eglwys, gerllaw. Disgrifir y ffynnon gan Gymdeithas Ffynhonau Cymru fel "ffynnon felltithio enwocaf Cymru".[3] | ||
Llanfaelog | Ffynnon Faelog | 53°13′26″N 4°31′17″W / 53.223869°N 4.521430°W | Gweler Gwefan Coflein | ||
Llangefni | Ffynnon Cyngar | 53°15′27″N 4°18′51″W / 53.257574°N 4.314224°W | Mae'r ffynnon ychydig islaw Eglwys Sant Cyngar, Llangefni, mewn man coediog ar lan afon Cefni mewn ardal a elwir y Dingle. | ||
Penmon | Ffynnon Seiriol, Penmon | 53°18′23″N 4°03′24″W / 53.306461°N 4.056536°W | Roedd dwy ffynnon yma ar un amser.[4] | ||
Penmynydd | Ffynnon Redifael | 53°15′04″N 4°13′26″W / 53.251007°N 4.223790°W | Mae safle’r ffynnon mewn cae bron gyferbyn â’r eglwys, ac mae gât mochyn yn arwain o’r ffordd gul i’r cae a elwir Gae Gredifael. Roedd y dŵr yn dda iawn at wella defaid ar ddwylo. Does dim byd i'w weld heddiw, gan fod y ffermwr wedi'i thorri gyda'i aradr. | ||
Penrhosllugwy | Ffynnon Parc Mawr | 53°21′35″N 4°16′37″W / 53.359736°N 4.276866°W | Mae hon i'w gweld ar ochr orllewinol y ffordd sydd yn arwain i Amlwch, sef yr A5025. Disgrifir ei dŵr fel 'dŵr copor' gan fod lefel uchel o haearn yn ei dŵr. Roedd yn cael ei defnyddio ar gyfer melltithio yn nechrau 20g.[5] | ||
Caergybi | Ffynnon Gorlas | 53°18′33″N 4°39′08″W / 53.309126°N 4.652270°W | Ffynnon Gorlas well, yng nghornel ddwyreiniol hen gapel. Defnyddiwyd Ffynnon Gorlas yn ddyddiol gan y fferm gyfagos, tan y daeth dŵr tap yn nechrau’r 1930au, ac yna gan leianod o’r cwfent lleol tan 1955. Mae pedair ochr i’r ffynnon a wal uchel o’i hamgylch. Fe’u codwyd, yn ôl pob tebyg, i rwystro pobl rhag gweld yr ymdrochwyr neu i gadw anifeiliaid allan. Mae'r wal bresennol yn sefyll ar sylfaen o’r Oesoedd Canol o bosib. |
Eraill
golygu- Ffynnon Rhosfawr
- Ffynnon Bioden, ar dir Y Parciau:Ffynnon Jib yn Nhreboeth
- Ffynnon Dinas
- Ffynnon Minffordd, ar dir Ty'n Llan
- Yn Llanfair Mathafarn mae tair ffynnon ond ni roddir eu henwau
- Ffynnon Pant, y Garn
- Ffynnon Bwlch a Ffynnon Oer ar draeth y Benllech
- Pwll Bragu - oddi yno y ceid dŵr i fragu cwrw yn y bragdy yn Llanfair Mathafarn Eithaf
- Ffynnon, Berthlwyd
- Ffynnon Bryn Goronwy - y ffynnon y cred rhai y bu Goronwy Owen yn tynnu dŵr ohoni
- Ffynnon Badell
- Ffynhonnau Cerrigman - Ffynnon Cerwas
- Dwy ffynnon Mynydd Gwyn
- Ffynnon Ty'n Ffynnon
- Ffynnon y Drum, Carreglefn
- Ffynnon Betws, Penrhyd.
Ffynnon[6] | Lleoliad |
---|---|
Alarch | Ysgubor Fawr, Llanidan |
Allgo | Eglwys Llanallgo |
Annon | Llanbeulan |
Y Badell | Benllech / Tyn-y-gongl |
Badrig | Llanbadrig / Cemais |
Briwas | Amlwch |
Bryn Bendigiad | Aberffraw / Llangadwaladr |
Cae Syr Rhys | Amlwch |
Carreg-y-drosffordd | Llanfair yng Nghornwy |
Carreg Diamond | Llanfair yng Nghornwy |
Cefn Du Mawr | Mynydd y Garn, Llanfair yng Nghornwy |
Cerrig Ceinwen | Eglwys Cerrig Ceinwen |
Clorach | Maenaddwyn / Llannerch-y-medd |
Dafaden | Ynys Llanddwyn |
Daniel | Cae Mawr, Llanddaniel |
Dudur | Pentraeth |
Dyfiog | Pencaernisiog |
Ddiogi | Rhwng Burwen ac Amlwch |
Ddwyfan | Llanfair yng Nghornwy |
Ddwynwen | Twyni Llanddwyn |
Ddygfael | Llyn Llygeirian, Llanfechell |
Eilian | Eglwys Llaneilian a Phorth Newydd |
Elaeth | Pen Isaf, Stryd y Ffynnon, Porth Amlwch |
Elaeth | Ger Gwredog, Rhosgoch |
Faelog | Rhosneigr |
Fair | |
Fawr | Ger Eglwys y Plwyf, Bodedern |
Fechell | Llanfechell |
Feuno | Lôn Bragdy, Aberffraw |
Feurig | Mynydd Parys |
Ffraid | Tywyn y Capel / Bae Trearddur |
Gaffo | Ymyl Cors Malltraeth |
Gib | Y Dafarn Goch, Rhosfawr / Brynteg |
Ginarch | Tywyn y Capel |
Coferydd | Mynydd Tŵr, Ynys Cybi |
Golochwyd | Mynydd Tŵr / Bae Gogarth |
Gollas / Gorlas | Caergybi / Llaingoch |
Gweirgloddiau | Tal-y-braich, Niwbwrch |
Gwenllïan | Llandegfan |
Gybi | Caergybi |
Gylched | Llangefni |
Gyngar | Llangefni / Nant y Pandy |
Halog | Brynsiencyn |
Halog | Brynsiencyn |
Heliwr / Helwyr | Mynydd Bodafon |
Iestyn | Tyddyn Uchaf, Eglwys Llaniestyn |
Lydan | Cornelyn, Llangoed |
Lugwy | Penrhosllugwy |
Llywarch | Waenyolog, Llanbabo |
Llwyd | Cleifiog Isaf, Y Fali |
Mab | Llandrygarn |
Menyn | Mynydd Parys / Amlwch |
Meirch / Y Meirch | Aberffraw |
Minffrwd | Bryn Teg / Afon Gwenffrwd |
Mwstre | Llaneilian |
Nur | Sybylltir, Bodedern |
Oer | Llanddona |
Parc Mawr | Penrhosllugwy |
Pechod | Llangaffo |
Pen Lan | Llangefni |
Pentre Eiriannell | Penrhosllugwy |
Plas-bach | Benllech |
Redifael | Penymynydd |
Robin | Cemais |
Rofft | Niwbwrch |
Y Sais | Ynys Llanddwyn |
Seiriol | Llaniestyn |
Seiriol | Penmon |
Trinculo | Llanfechell |
Tros-yr-afon | Penmon |
Y Trueiniaid | Tyddyn Truan, Llanfair Mathafarn Eithaf |
Tŷ-coch | Cae Mawr, Rhostrehwfa |
Ty'n Gamfa | Ty'n Gamfa, Llangefni |
Ulo | Capel Ulo, Caergybi |
Wen | Niwbwrch |
Wen | Mynydd Eilian |
Wenfaen | Rhoscolyn |
Y Wrach | Mynydd Tŵr, Caergybi |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gruffydd, Eirlys a Ken Lloyd. Ffynhonnau Cymru, Cyfrol 2. Llanrwst: Llyfrau Llafar Gwlad, 1999.
- ↑ ffynhonnaucymru.org.uk; adalwyd 6 Ebrill 2017.
- ↑ Gwefan Cymdeithas Ffynhonau Cymru; adalwyd 3 Mawrth 2014.
- ↑ Gwefan Cadw; adalwyd 6 Ebrill 2017.
- ↑ ffynhonnaucymru.org.uk
- ↑ Jones, Gwilym T. (1996). Enwau lleoedd Môn = The place-names of Anglesey. Prys, Delyth., Roberts, Tomos., Anglesey (Wales). County Council., University College of North Wales. Research Centre Wales. [Llangefni]: Cyngor Sir Ynys Môn. ISBN 0-904567-71-0. OCLC 37301308.