Ffynnon Badrig, Llanbadrig
Mae Ffynnon Badrig wedi ei lleoli ym mhentref Llanbadrig ar Ynys Môn.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Mae yna ddwy ffynnon yn perthyn i Badrig yn y pentref. Mae un ger yr eglwys ac mae’r llall yn nwyrain y pentref wrth ymyl Borthwen. Roedd y ffynnon wedi ei hesgeuluso ar ddechrau’r 20ed ganrif ond gellir dilyn lwybr cul i lawr y graig i gyrraedd y ffynnon.
Hanes
golyguRoedd galw mawr am y dŵr er mwyn trin anhwylderau plant a phobol ifanc. Roedd y dŵr yn cael ei gario o Lanbadrig mewn poteli a’i werthu fel meddyginiaeth mewn ffeiriau a marchnadoedd o gwmpas Ynys Môn. Yn ôl hanesion lleol roedd blas da ar y dŵr a’i fod yn effeithiol at wella cri cymalau, gwella’r droedwst, cornwydon a’r ddannoedd. Dyma hen bennill gwerinol oedd yn rhoi clod i’r ffynnon.
- Mae’r dwfr yn ffynnon Badrig
- Heb ei fath, heb ei fath
- Am wella pob anhwylder
- Heb ei fath, heb ei fath.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)