Ffynnon Bryn Bendigaid, Aberffraw

Mae ffynnon Bryn Bendigaid wedi ei lleoli ym mhlwyf Aberffraw ar Ynys Môn.

Ffynnon Bryn Bendigaid, Aberffraw
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Ffynnon Bryn Bendigaid

Mae’r ffynnon rhyw hanner milltir i’r dwyrain o’r pentref ar y ffordd sydd yn croesi’r twyni i’r pentref nesaf, sef Llangadwaladr.

Hanes golygu

Roedd y dŵr yn ddŵr gwerthfawr iawn am ei bod yn llesol at iachau nifer o anhwylderau ac felly penderfynodd Syr Arthur Owen, Bodeon yn y 18ed ganrif i adeiladu wal o’i chwmpas i rwystro’r anifeiliaid rhag yfed allan ohoni. Hesgeuluswyd y ffynnon ar ôl hyn ond fe’i hail-agorwyd yn y flwyddyn 1861.

Rhyw bedwar can llath o’r ffynnon hon roedd ffynhonnau iachusol eraill. Roedd y rhain wedi eu lleoli ger Croes Ladys. Merthyrwyd dynes o’r enw Gladys yn y pentref ac felly dyna sut cafwyd yr enw.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)