Ffynnon Cefn Du Mawr

Mae Ffynnon Cefn Du Mawr wedi ei lleoli ger Mynydd y Garn ym mhlwyf Llanfair-yng-Nghornwy.

Ffynnon Cefn Du Mawr
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Mae modd gweld olion hen ddefodau paganaidd o gyfnod y Derwyddon.

Yn ôl llyfr Ffynhonnau Cymru gan Eirlys a Ken Lloyd Gruffydd, ar ddechrau'r 20ed ganrif roedd hi'n arferiad i godi'r pedair carreg o gorneli'r ffynnon a'u sgwario'n lân cyn eu gosod yn ôl yn ofalus yn eu lle. Roedd hyn er mwyn cadw ysbrydion drwg draw.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)