Llanfair-yng-Nghornwy

pentref ar Ynys Môn

Mae Llanfair-yng-Nghornwy ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Llanfairyngnghornwy) yn bentref bychan a phlwyf eglwysig yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Saif i'r gogledd-orllewin o'r briffordd A5025 rhwng Llanrhyddlad a Cemaes, ar lan Bae Caergybi. Mae'n rhan o gymuned Cylch y Garn.

Llanfair-yng-Nghornwy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3919°N 4.5517°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Hanes a hynafiaethau golygu

 
Maen hir Pen yr Orsedd.

Mae'n bosibl bod yr enw "Cornwy" yn dod oddi wrth lwyth Celtaidd y Cornovii. Cofnodir y llwyth yma yng nghanolbarth Lloegr, ond mae awgrym hefyd fod llwyth o'r un enw yn Iwerddon.

Cysegrwyd eglwys y plwyf i'r Santes Fair. Ni wyddys dyddiad sefydlu'r eglwys. Mae'r rhannau hynaf yn dyddio o'r 11g neu'r 12g. Cafodd ei helaethu dwywaith: yn y 15g, pan godwyd siansel, ac yn yr 16g pan ychwanegwyd capel i'r de o'r siansel gyda tri bwa yn eu gwahanu. Mae'r tŵr ym mhen gorllewinol yr eglwys yn dyddio o'r 17g. Mae'n adeilad cofrestredig Graddfa 1.[1]

Ceir sawl heneb yn y plwyf, yn cynnwys meini hirion fel y rhai yn Llwyn Ysgaw a charreg unigol Pen yr Orsedd.

Natur golygu

I'r de o'r pentref ceir bryn 170m Mynydd y Garn. Tua milltir i'r gorllewin, ger y traeth, ceir Llyn y Fydlyn. I gyfeiriad y gogledd ceir Trwyn y Gader (Saesneg: Carmel Head).

Allan yn y môr mae ynysoedd Maen y Bugail ac Ynysoedd y Moelrhoniaid yn perthyn i'r plwyf.

Pobl o Lanfair-yng-Nghornwy golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cadw". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-31. Cyrchwyd 2015-05-20.