Ffynnon Iestyn, Llaniestyn
Mae ffynnon Iestyn wedi ei lleoli ym mhentref Llaniestyn yn Ynys Môn.
Mae’r ffynnon ar dir Tyddyn Isaf wrth ymyl eglwys Llaniestyn. Cyngar oedd brawd Iestyn ac felly roedd yn ewythr i Sant Cybi. Roedd pobol yn cario dŵr i’r eglwys ar gyfer bedyddio plant ond mae rheswm da dros beidio ag yfed dŵr y ffynnon. Yn ôl yr hanesion roedd hi’n ffynnon felltithio.
Roedd pobol yn taflu ceiniogau a ddefnyddiwyd i gau llygaid y meirw i’r ffynnon a cheiniogau corff roedden nhw yn cael eu galw.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)