Fideo o luoedd yr UD yn piso ar gyrff Taleban

Yn Ionawr 2012 cafodd fideo o luoedd yr Unol Daleithiau yn piso ar gyrff meirw aelodau'r Taleban ei uwchlwytho i nifer o wefannau. Aeth y fideo'n firaol ar YouTube, TMZ a gwefannau eraill, gan beri dicter ar draws y byd. Lansiwyd ymchwiliad troseddol wedi i swyddogion o Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau cydnabod pob un o'r pedwar Môr-filwr yn y fideo.

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolFideo Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiIonawr 2012 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaByddin yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata

Cynnwys y fideoGolygu

  Fideos allanol
  Y fideo ar wefan The Guardian

Dangosa'r fideo pedwar dyn mewn gwisg ymladd Môr-filwyr yr Unol Daleithiau yn chwerthin a jocan wrth iddynt biso ar dri chorff dynion meirw mewn rhan wledig o Affganistan.[1] Yn ôl y cyfryngau newyddion, gwrthryfelwyr y Taleban yw'r dynion meirw. Gellir clywed y Môr-filwyr yn dweud "Have a great day, buddy", "Golden like a shower" ac "Yeahhhh!".[2]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu