Abu Ghraib
Mae Abu Ghraib (hefyd Abu Ghuraib; Arabeg: أبو غريب) yn ddinas yng nghanolbarth Irac, yn nhalaith Al Anbar. Mae'n gorwedd tua 32 km i'r gorllewin o'r brifddinas, Baghdad, yn agos i lan ogleddol Afon Ewffrates. Rhed yr hen ffordd o Fagdad i Wlad Iorddonen trwy'r ddinas. Mae ganddi boblogaeth o tua 750,000 - 1.5 miliwn o bobl.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 189,000 |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Baghdad Governorate |
Gwlad | Irac |
Uwch y môr | 29 metr |
Cyfesurynnau | 33.2919°N 44.0656°E |
Daeth Abu Ghraib yn ddrwgenwog ledled y byd pan ddatguddiwyd yn 2004 fod milwyr Americanaidd yn camdrin carcharorion Iracaidd yn ngharchar Abu Ghraib, a fu cyn hynny yn garchar dan lywodraeth Saddam Hussein.