FileZilla
Mae FileZilla yn feddalwedd côd agored ac am ddim a grewyd i drosglwyddo ffeiliau rhwng dyfeisiau drwy FTP (File Transfer Protocol). Mae ar gael ar gyfer Windows, Linux ac OS X gyda rhyngwyneb Cymraeg.[1][2]
Datblygwr | Tim Kosse |
---|---|
Rhyddhad cychwynnol | 22 Mehefin 2001 |
Iaith raglennu | C++, wxWidgets |
system weithredu | Aml-blatfform |
Llwyfan | Windows, Linux, OS X |
Maint | 6.08 MB |
Cyfieithu parod | Nifer o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg |
Math | cleient FTP |
Trwydded | Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU Fersiwn 2 |
Gwefan | filezilla-project.org |
Un o brif ddefnyddiau FileZilla yw fel protocol i drosglwyddo ffeiliau gweinyddwr gwefan dros y rhyngrwyd rhwng dyfais leol a'r cyfrifiadur pell sy'n weinydd y wefan. Mae rhai o'r cwmnïau gwesteia gwefannau mwyaf adnabyddus yn argymell defnyddio FileZilla.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tim Kosse. "Client Download". FileZilla. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.
- ↑ Tim Kosse. "Translations". FileZilla. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.
- ↑ "Bluehost Web Hosting Help". Bluehost. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.