Fileteado yw fath o ddarlunio a llythrennu artistig a ddefnyddir yn nodweddiadol yn Buenos Aires yn yr Ariannin. Mae nodweddion yn cynnwys llinellau arddulliedig a phlanhigion dringo blodeuog. Fe'i defnyddir i addurno pob math o wrthrychau er enghraifft arwyddion, tacsis, lorïau a hyd yn oed yr hen colectivos, sef bysiau Buenos Aires.

Enghraifft hunangyfeiriol o'r arddull gelf.

Mae filetes (y llinellau a ddefnyddir yn yr arddull fileteado) fel arfer yn llawn addurniadau lliw a chymesureddau wedi'u cwblhau gydag ymadroddion barddonol, dywediadau a gwirebau llenyddol, yn ddoniol, emosiynol neu athronyddol. Maent wedi bod yn rhan o ddiwylliant y Porteños (trigolion Buenos Aires) ers dechreuad yr 20fed ganrif.

Dechreuodd y filetes fel addurniadau syml, gan ddod yn arddull o gelf gynrychioliadol y ddinas. Roedd llawer o'i artistiaid ar y dechrau yn fewnfudwyr Ewropeaidd a ddaeth â rhai elfennau, a chymysgodd gydag arddulliau celf draddodiadol leol er mwyn ddod yn arddull celf unigryw i'r Ariannin. Cydnabuwyd fileteado fel arddull celf unigryw ar ôl 1970, pan gafodd ei arddangos am y tro cyntaf.

Dechreuodd Fileteado yn y cartiau llwyd a dynnwyd gan geffylau, a oedd yn cludo ffrwythau, llaeth, bwydydd a bara ar ddiwedd y 19eg ganrif.[1] Gelwir yr arlunydd a addurnodd y cartiau hyn yn fileteador, oherwydd defnyddir brwsys paent ag edau hir hefyd o’r enw “brwsys ar gyfer gwneud filetes”. Mae'r gair hwn yn deillio o'r Lladin "filum" sy'n golygu "edau", gan fod yr arddull yn cynnwys llinellau cain fel addurniadau.

Bryd hynny, roedd llawer o beintwyr arbenigol yn llwyddiannus iawn, fel Ernesto Magiori, Pepe Aguado, a Miguel Venturo, mab Salvador Venturo. Roedd yr Venturo yn gapten ar Lynges Fasnachol yr Eidal, yna symudodd i Buenos Aires lle canolbwyntiodd ar fileteado, yn cynnwys nifer o fotiffau o'i famwlad. Astudiodd Miguel baentio a gwnaeth gwella techneg ei dad, ac mae'n cael ei ystyried fel un o'r arlunwyr a siapiodd yr arddull. Ef wnaeth gyflwyno adar, blodau, diemwntau a dreigiau yn y motiffau. Oherwydd codwyd treth ar lythyrau mawr iawn, paentiodd Miguel rai llai ond wedi'u hamgylchynu gan ddyluniadau lliwgar a chymhleth iawn er mwyn tynnu sylw. Parhaodd y dyluniad hwn am amser hir.

Prif nodweddion

golygu

Yn y llyfr Filete porteño, gan Alfredo Genovese[2], mae'r anthropolegydd Norberto Cirio yn disgrifio'r prif nodweddion ffurfiol o fileteado fel:

  1. Llawer iawn o steilio
  2. Lliwiau bywiog
  3. Defnydd o gysgodi ac uwch-oleuo er mwyn creu'r argraff o ddyfnder
  4. Defnydd ffont Gothig neu lythrennau manwl iawn
  5. Cymesuredd
  6. Fframio pob cyfansoddiad pan fydd wedi gorffen
  7. Defnydd effeithlon o'r lle sydd ar gael
  8. Delweddau gyda chysyniadau symbolaidd (y bedol fel symbol o lwc dda, y ddraig fel symbol o gryfder).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Fitzgerald, Tim (26 December 2012). "Learn a true Buenos Aires art form". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-13.
  2. Genovese, Alfredo, 1964- (2007). Filete porteño. Comisión para la Preservación del Patrimonio Histórico Cultural de la Ciudad de Buenos Aires. [Buenos Aires]: Comisión para la Preservación del Patrimonio Histórico Cultural de la Ciudad de Buenos Aires. ISBN 978-987-23708-1-7. OCLC 794118016.CS1 maint: multiple names: authors list (link)