Fitiligo
Mae Fitiligo yn gyflwr hir-dymor sy'n effeithio ar y croen ac sy'n cael ei nodweddu gan ddarnau o'r croen yn colli eu pigment. Mae'r darnau o groen sy'n cael eu heffeithio yn troi'n wyn ac mae ganddyn nhw fel arfer ymylon pendant. Gall y gwallt o'r croen hefyd droi'n wyn, ac mae'n bosib iddo effeithio ar y fewn y tu fewn i'r ceg a'r trwyn hefyd.[1] Fel arfer mae dwy ochr y corff yn cael eu heffeithio gan y cyflwr, ac i'w weld yn gyntaf ar ddarnau o groen sydd yn agored i'r haul. Mae'n fwy amlwg i'w weld pan fo'r lliw croen yn dywyll. Gall fitiligo arwain at straen seicolegol a gall rhai pobl sy'n cael eu heffeithio yn cael eu trin yn israddol.
Math o gyfrwng | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd hunanimíwn, autoimmune skin disease, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid yw union achos fitiligo yn hysbys.[2] Credir ei fod o ganlyniad i ragdueddiad genetig sy'n cael ei achosi gan ffactor amgylcheddol fel bod clefyd hunanimíwn yn digwydd. Canlyniad hyn yw dinistr celloedd pigment y croen. Mae ffadtorau risg yn cynnwys hanes o'r cyflwr yn y teulu, neu hanes o glefydau hunanimíwn eraill, fel hyperthyroidedd, clwy'r llwynog, ac anemia dinistriol. Nid yw'n heintus.[3] Mae fitiligo yn cael ei ddosbarthu yn ddau brif fath: cylchrannol ac an-gylchrannol. Mae'r rhan fwyaf o achosion yn an-gylchrannol, sy'n golygu eu bod yn effeithio ar y ddwy ochr; ac yn yr achosion hyn, mae'r rhannau o'r croen sydd wedi'u heffeithio yn tyfu gydag amser. Mae tua 10% o achosion yn gylchrannol, sy'n golygu bod y cyflwr yn effeithio ar un ochr o'r corff yn unig; ac yn yr achosion hyn, nid yw'r ardal sydd wedi'i heffeithio yn ymestyn gydag amser. Mae diagnosis fel arfer yn cael ei gadarnhau gyda biopsi o'r meinwe.
Nid oes triniaeth sy'n arwain at iachâd llwyr o fitiligo. I'r rhai hynny sydd a chroen lliw golau, yr unig argymhellion yw eu bod yn defnyddio eli haul a chosmetigau. Gall triniaethau eraill gynnwys hufenau steroid neu fffototherapi i dywyllu'r darnau golau. Ceir hefyd enghreifftiau o ymgeisiau i oleuo'r croen nad yw wedi'i effeithio gyda hydroquinone er mwyn rhoi cysondeb lliw. Mae nifer o opsiynau meddygol ar gael os nad yw'r mesurau uchod yn cael eu defnyddio neu eu bod yn aneffeithiol, ac mae'r canyniadau gorau fel arfer i'w gweld pan defnyddir cyfuniad o driniaethau. Gall cwnsela i ddarparu cefnogaeth emosiynol hefyd fod o gymorth.
Mae tua 1% o bobl yn cael eu heffeithio gan fitiligo.[4] Mae gan rai poblogaethau gyfraddau mor uchel a 2–3%.[5] Nid yw'r cyfraddau yn wahanol rhwng dynion a menywod. Mae tua hanner o'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y cyflwr yn dangos arwyddion cyntaf ohono cyn eu bod yn 20 oed ac mae'n datblygu cyn iddynt gyrraedd 40 oed. Mae enghreifftiau o fitiligo yn mynd yn ôl i ddyddiau'r henfyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Questions and Answers about Vitiligo". NIAMS. June 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 August 2016. Cyrchwyd 11 August 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Ezzedine, K; Eleftheriadou, V; Whitton, M; van Geel, N (4 July 2015). "Vitiligo.". Lancet 386 (9988): 74–84. doi:10.1016/s0140-6736(14)60763-7. PMID 25596811.
- ↑ Chopra, Parul; Niyogi, Rageshree; Katyal, Gauri (2009). Skin and Hair Care: Your Questions Answered (yn Saesneg). Byword Books Private Limited. t. 2. ISBN 9788181930378.
- ↑ Whitton, M; Pinart, M; Batchelor, JM; Leonardi-Bee, J; Gonzalez, U; Jiyad, Z; Eleftheriadou, V; Ezzedine, K (May 2016). "Evidence-based management of vitiligo: summary of a Cochrane systematic review.". The British Journal of Dermatology 174 (5): 962–9. doi:10.1111/bjd.14356. PMID 26686510.
- ↑ Krüger C; Schallreuter KU (October 2012). "A review of the worldwide prevalence of vitiligo in children/adolescents and adults". Int J Dermatol 51 (10): 1206–12. doi:10.1111/j.1365-4632.2011.05377.x. PMID 22458952.