Flea
Mae Michael Peter Balzary (ganwyd 16 Hydref 1962), sydd yn cael ei adnabod fel Flea, yn faswr ac yn aelod o’r band roc-ffync Red Hot Chilli Peppers ers eu hymffurfiant yn 1983. Mae Flea hefyd wedi chwarae gyda bandiau megis Fear, Jane’s addiction, What is this, ac Atoms for peace.
Flea | |
---|---|
Ganwyd | 16 Hydref 1962 Melbourne |
Man preswyl | Los Angeles |
Label recordio | Warner Bros. Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gitarydd bas, actor, actor ffilm, trympedwr, canwr, cerddor, actor teledu, pianydd, actor llais |
Cyflogwr | |
Arddull | roc amgen |
Priod | Frankie Rayder, Melody Ehsani |
Partner | Frankie Rayder |
Gwefan | http://www.redhotchilipeppers.com |
Yn ei chwarae, mae yna elfennau o Ffync (megis bas slap), Punk, a roc seicedelig yn ei chwarae. Yn 2009, cafodd ei enwi gan Rolling Stone y baswr ail orau yn y byd, dim ond tu ôl i John Entwistle. Yn 2012 cafodd ei fand Red Hot Chilli Peppers ei urddo i'r Rock and Roll Hall of Fame.
Bywyd a Gyrfa
golyguGaned Flea ym Melbourne, Victoria. Roedd ei dad yn bysgotwr. Ym 1966 symudodd ef a’i deulu i Efrog Newydd. Ym 1971 ysgarodd ei rieni, ac aeth Flea i fyw efo’i fam, a briododd gerddor Jazz. Bu hyn yn achosi i Flea ddechrau cymryd diddordeb yng Ngherddoriaeth Jazz, gan gychwyn chwarae’r trwmped. Aeth Flea i ysgol uwchradd Fairfax, lle bu'n cyfarfod â Anthony Kiedis, a cychwynodd chwarae'r gitar bas. Daeth y ddau ohonyn nhw'n ffrindiau agos, a gyda'r gitarydd Hillel Slovak, ffurfion nhw'r band Anthym. Gadawodd Flea y band ar ôl ychydig o fisoedd i ymuno â'r grwp Fear.