Flying Fish Cove
Prif aneddiad Ynys y Nadolig, ynys yng Nghefnfor India sy'n un o diriogaethau Awstralia, yw Flying Fish Cove. Cyfeirir ato hefyd fel 'Kampong' ac ar fapiau yn aml fel "The Settlement." Cyfeiria'r enw olaf at y ffaith mai yma y sefydlwyd yr aneddiad gwreiddiol ar yr ynys gan Brydain yn 1888.
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 1,599, 1,355 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys y Nadolig |
Gwlad | Awstralia |
Uwch y môr | 135 metr |
Cyfesurynnau | 10.4217°S 105.6781°E |
Mae tua thraean (c. 500) o boblogaeth yr ynys yn byw yn Flying Fish Cove. Mae'n gorwedd ar ben gogledd-orllewinol yr ynys gyda harbwr bychan a llain glanio wrth ei ymyl.