Copa ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Foel Eryr. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r gogledd o bentref Rhos-y-bwlch ac i'r gorllewin o gopa Foel Cwmcerwyn.

Foel Eryr
Math safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Benfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cadwyn fynydd Mynydd Preseli Edit this on Wikidata

Ceir carnedd o Oes yr Efydd ac olion tai ar y mynydd, ac ar Banc Du i'r de o'r copa mae olion cyfres o sefydliadau, o'r Oesoedd Canol yn ôl i'r cyfnod Neolithig. Mae Afon Gwaun yn tarddu ar lethrau Foel Eryr.