Afon Gwaun
Afon yn Sir Benfro, de-orllewin Cymru, yw Afon Gwaun. Ei hyd yw tua 10 milltir (15 km).
Gorwedd tarddle'r afon ar lethrau gorllewinol bryniau Preseli, heb fod ymhell o bentref bychan Tafarn-y-bwlch a Foel Eryr (1535'). Mae'n llifo oddi yno i gyfeiriad y gorllewin, heibio i bentrefi Cwm Gwaun, Y Bont Faen, a Llanychâr. Mae'n cyrraedd y môr yn Abergwaun gan lifo i Fae Abergwaun, sy'n rhan o Fae Ceredigion. Mae'r aber yn ffurfio porthladd pwysig gyda llongau fferi yn hwylio oddi yno i Rosslare yn Iwerddon.
Yn yr Oesoedd Canol dynodai'r afon y ffin rhwng cantrefi Cemais a Pebidiog.