Folkspraak
Mae Folkspraak (hefyd Folksprák aa Folksprak; o'r geiriau folk 'pobl' a spraak 'iaith', yn golygu "iaith y bobl") yn iaith anorffenedig[1] yn seiliedig ar Ieithoedd Germanaidd gyda'r bwriad o fod yn hawdd ei ddysgu i unrhyw siaradwr frodorol o'r ieithoedd Germanaidd,[1] gan ei wneud yn gymwys fel math o lingua franca ymysg cymuned siaradwyr ieithoedd Germanaidd.[2]
Enghraifft o'r canlynol | Iaith artiffisial |
---|---|
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gair Folkspraak yn cael ei ddefnyddio yn ogystal mewn ffordd mwy cyffredinol i drafod cydweithio ieithyddol Rhyng-Germanaidd.
Hanes
golyguMae datblygiad y prosiect iaith yn cymryd lle gan mwyaf ar-lein mewn grŵp Yahoo. Ceir sawl gwahaniaeth am bwyntiau gramadeg ac orgraff ac mae sawl fersiwn, neu dafodiaith gwahanol o'r 'iaith' wedi datblygu.[2] Ceir anghytuno dros ba ffynhonnell ieithyddol i seilio'r geiriau a gramadeg arnynt. Bydd rhai datblygwyr felly, yn cael ysbrydoliaeth i'r iaith Ffriseg, Is-Almaeneg (Plattdeutsch) a Norwyeg Nynorsk yn ogystal â'r ieithoedd ffurfiannol eraill; Saesneg, Iseldireg, Almaeneg, Daneg a Norwyeg Bokmål, a Swedeg.[2]
Gorolwg
golyguY syniad tu ôl y prosiect oedd y byddai i siaradwyr un iaith Germanaidd allu darllen a deall Folkspraak o fewn wythnos a'i hysgrifennu o fewn mis.[1]
Mae datblygiad yr iaith yn debyg i broses datblygiad Interlingua. I greu iaith neu trefn gramadegol mae Folkspraak yn defnyddio samplau o'r holl ieithoedd Germanaidd i greu y ffurf mwyaf cyffredin.[1] Gwneir defnydd hefyd o ieithoedd artiffisial Germanaidd eraill.
'Tafodieithoedd'
golyguO achos y rhaniadau ac anghytuno o fewn Folkspraak, ceir sawl prosiect a 'tafodiaith' gwahanol.
Middelspraak
golyguMae Middelspraak (hefyd Middelsprake) yn iaith-greu a ddyluniwyd gan Ingmar Roerdinkholder, a ddaeth, maes o law, i fod yn aelod a geisiodd datblygu Folkspraak. Daeth Middelspraak i ymdebygu'n fawr i Folkspraak, ac, o'r herwydd, fe'i gwelir fel amrywiaeth arni. Y prif wahaniaeth rhwng y ddwy 'iaith' yw'r sillafu a ffonoleg. Mae Middelspraak yn fwy ceidwadol, archaig, tra bod ffocws mwy cyfoes a syml i Folkspraak.
Creuwyd Middelspraak drwy gymharu 8 iaith Germanaidd fyw: Saesneg, Almaeneg, Iseldireg, Daneg, Swedeg, Is-Sacsoneg, Ffrisieg a Norwyeg Nynorsk.
Frenkisch
golyguMae Frenkisch yn waith annibynnol o fewn Folkspraak. Fe'i datblygwyd gan David Parke.
Nordienisk
golyguMae Nordienisk yn ail waith annibynnol o fewn Folkspraak. Ni wyddir pwy yw ei chreadwr.
Gramadeg
golyguY Wyddor ac Ynganu
golyguMae'r wyddor Folkspraak yn defnyddio wyddor Lladin sylfaenol ISO. Mae cytseiniaid dwbl a grwpiau cytseiniol yn nodi llafariaid byr. Mae'r c yn cynrychioli IPA'/s/' o flaen llafariaid blaen (e i y eu) ac IPA/k/ ac mewn unrhyw fan arall. Mae'r deugraffau th a ph yn cynrychioli yr un ynganiad â t a p. Ni ddefnyddir nodau diacritig.
Morffoleg
golyguDoes gan Folkspraak ddim amrywiaeth ansoddeiriol a llafar. Mae enwau a greir o ansoddeiriau yn ogystal â berfenwau sy'n terfynnu mewn -e fel yn de andere (yr arall) a have (i gael, to have). Does dim gwahaniaeth rhwng ansoddeiriau ac adferfau.
Does dim cenedl enwau heblaw mewn rhagenwau personol: si (hi, 'she'), hi (fe, 'he'), ik (fi, 'I'), mi (fi, 'me').
Gwneir enwau yn lluosog drwy ychwanegu -e neu, os yw'r enw yn gorffen gyda llafariad di-acen, gydag -s. Mann (dyn, 'man'), manne (dynion, 'men'), auto (car), autos (ceir, 'cars').
Cystrawen
golyguY drefn sylfaenol yw goddrych-berf-gwrthrych, (SVO, subject–verb–object ). Gofynnir cwestiwn dwy ddweud tu chwith, berf-goddrych-gwrthrych, (VSO).
Enghreifftiau
golyguCeir Gweddi'r Arglwydd mewn sawl tafodiaith neu amrywiaeth Folspraak.
Folkspraak | Folksprak | Middelsprake | Boksprak | Fůlkspræk |
---|---|---|---|---|
Ons Fater, |
Usser fader, |
User Fader |
Onser Fader |
Ůnsĕr Fadĕr |
O Erthygl 1 Datganiad Hawliau Dynol Ryngwladol:
All mensklik wesings âre boren frî on' gelîk in werđigheid on' rejte. Đê âre begifted mid ferstand on' gewitt on' skulde behandele êlkên in en gêst av brôđerhêd.
Dolenni
golygu- Folksprak.org - cynnwys gwybodaeth gramadegol, geirfa a wici
- Folkspraak page yn Langmaker (ddim ar gael yn uniongyrchol, mwyach)
- Tudalen Folkspraak ar Omniglot
- Geiriadur Saesneg-Folksprak dictionary
- Folkspraak: Germanic Auxiliary Language - y Grŵp Yahoo, lle datblygir Folkspraak
- Folkspraak ar Wikibooks
- casgliad o ddrafftiau Folksprak Archifwyd 2014-07-29 yn y Peiriant Wayback
- Middlespraak - Iaith Gyffredin Almaenig - y Grŵp Yahoo lle datblygir Middelspraak
- Amlinelliad Cryno o Middelspraak Archifwyd 2014-08-12 yn y Peiriant Wayback
- Amluniad o'r Perthynas gydag Iseldireg[dolen farw]
- Frenkisch Grammatik
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Folkspraak Archifwyd 2009-07-24 yn y Peiriant Wayback at Langmaker
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Folkspraak at omniglot.com