Gwyddor Seinegol Ryngwladol
Mae angen dyfyniadau a/neu gyfeiriadau ychwanegol ar ran o'r erthygl hon. Helpwch wella'r erthygl gan ychwanegu ffynonellau dibynadwy. Caiff barn heb ffynonellau ei herio a'i dileu. (Chwefror 2013) |
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
System o nodiant seinegol yw'r Wyddor Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Alphabet, IPA). Mae'n seiliedig ar yr wyddor Ladin, a dyfeisiwyd gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Association) fel cynrychiolaeth safonol o seiniau iaith lafar. Defnyddir yr IPA gan ieithyddion, patholegwyr a therapyddion lleferydd, athrawon ieithoedd tramor, cantorion, geiriadurwyr a chyfieithwyr.
Mae'r IPA wedi ei chynllunio i gynrychioli priodoleddau lleferydd sydd yn wahanredol yn yr iaith lafar yn unig, sef ffonemau, tonyddiaeth a gwahaniad geiriau a sillafau. Er mwyn cynrychioli priodoleddau lleferydd ychwanegol megis rhincian dannedd, siarad yn floesg, a seiniau wedi'u gwneud â thaflod hollt, defnyddir set estynedig o symbolau a elwir yn IPA Estynedig.
Ar hyn o bryd (2007), mae gan yr IPA 107 o lythrennau gwahanol a 56 o nodau acen a nodweddion mydryddol. Yn achlysurol, ychwanegir, gwaredir neu addasir symbolau gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol.
Yr wyddorGolygu
Cytseiniaid (ysgyfeiniol)Golygu
Dwywefusol | Gwefus-ddeintiol | Deintiol | Gorfannol | Ôl-orfannol | Olblyg | Taflodol | Felar | Tafodigol | Argegol | Glotol | |||||||||||||
Ffrwydrol | p | b | t | d | ʈ | ɖ | c | ɟ | k | ɡ | q | ɢ | ʔ | ||||||||||
Trwynol | m | ɱ | n | ɳ | ɲ | ŋ | ɴ | ||||||||||||||||
Crych | ʙ | r | ʀ | ||||||||||||||||||||
Cnithiedig | ⱱ* | ɾ | ɽ | ||||||||||||||||||||
Ffrithiol | ɸ | β | f | v | θ | ð | s | z | ʃ | ʒ | ʂ | ʐ | ç | ʝ | x | ɣ | χ | ʁ | ħ | ʕ | h | ɦ | |
Ffrithiol ochrol | ɬ | ɮ | |||||||||||||||||||||
Amcanedig | ʋ | ɹ | ɻ | j | ɰ | ||||||||||||||||||
Amcanedig ochrol | l | ɭ | ʎ | ʟ |
- Lle y ceir pâr o symbolau, cynrychiola'r un ar y chwith gytsain ddi-lais, ac ar y dde gytsain leisiol. Golyga'r sgwarau tywyll ynganiadau yr ystyrir eu bod yn amhosibl.
- Mae'r seren (*) yn dilyn symbol sydd newydd ei hychwanegu at Unicode. Dylech weld v â bachyn ar y dde os oes fersiwn diweddar y ffontiau Charis SIL, Doulos SIL neu DejaVu Sans wedi'u gosod ar eich cyfrifiadur.
Cytseiniaid (anysgyfeiniol)Golygu
Cleciau | Mewngyrcholion lleisiol | Alldafliadolion | |||
ʘ | Dwywefusol | ɓ | Dwywefusol | ʼ | enghreifftiau: |
ǀ | Deintiol | ɗ | Deintiol/gorfannol | pʼ | Dwywefusol |
ǃ | Gorfannol/ôl-orfannol | ʄ | Taflodol | tʼ | Deintiol/gorfannol |
ǂ | Taflod-orfannol | ɠ | Felar | kʼ | Felar |
ǁ | Ochrol gorfannol | ʛ | Taflodigol | sʼ | Ffrithiol gorfannol |
LlafariaidGolygu
Blaen | Canol | Ôl | ||||||||
Caeedig | i | y | ɨ | ʉ | ɯ | u | ||||
ɪ | ʏ | ʊ | ||||||||
Hanner caeedig | e | ø | ɘ | ɵ | ɤ | o | ||||
ə | ||||||||||
Hanner agored | ɛ | œ | ɜ | ɞ | ʌ | ɔ | ||||
æ | ɐ | |||||||||
Agored | a | ɶ | ɑ | ɒ |
- Lle y ceir pâr o symbolau, cynrychiola'r un ar y dde lafariad gron.
Symbolau eraillGolygu
ʍ | Ffrithiolen wefus-felar ddilais |
w | Cytsain amcanedig wefus-felar leisiol |
ɥ | Cytsain amcanedig wefus-daflodol leisiol |
ʜ | Ffrithiolen ardafodol ddi-lais |
ʢ | Ffrithiolen ardafodol leisiol |
ʡ | Ffwydrolyn ardafodol |
ɕ ʑ | Ffrithiolion gorfan-daflodol (di-lais/lleisiol) |
ɺ | Cytsain ochr-drawol orfannol leisiol |
ɧ | Yngenir ʃ a x ar yr un pryd |
UwchsegmentolionGolygu
ˈ | Prif acen |
ˌ | Acen eilaidd |
ː | Hir |
ˑ | Lled-hir |
˘ | Byr iawn |
. | Toriad sillaf |
Grŵp acennau bach | |
‖ | Grŵp acennau mawr |
‿ | Clymu (diffyg toriad) |
Tonau ac acenion geiriauGolygu
e̋ neu ˥ | Tôn uchel iawn |
é neu ˦ | Tôn uchel |
ē neu ˧ | Tôn ganol |
è neu ˨ | Tôn isel |
ȅ neu ˩ | Tôn isel iawn |
ě | Tôn esgynnol |
ê | Tôn ddisgynnol |
↓ | Disgyniad tonyddol |
↑ | Esgyniad tonyddol |
↗ | Esgyniad tonyddol brawddegol |
↘ | Disgyniad tonyddol brawddegol |
AcenionGolygu
n̥ d̥ | Di-lais | b̤ a̤ | Llais anadlog | t̪ d̪ | Deintiol |
s̬ t̬ | Lleisiol | b̰ a̰ | Llais creclyd | t̺ d̺ | Pigynnol |
tʰ dʰ | Anadlog | t̼ d̼ | Tafod-wefusol | t̻ d̻ | Lafinol |
ɔ̹ | Mwy crwn | tʷ dʷ | Gwefusoledig | ẽ | Trwynoledig |
ɔ̜ | Llai crwn | tʲ dʲ | Taflodedig | dⁿ | Gollyngiad trwynol |
u̟ | Ymlaen | tˠ dˠ | Felaredig | dˡ | Gollyngiad ochrol |
i̠ | Yn ôl | tˁ dˁ | Argegoledig | d̚ | Gollyngiad anhyglyw |
ë | Canoledig | l̴ | Felaredig neu argegoledig | ||
e̽ | Canoledig a chanol-ganoledig | e̝ | Uwch | ||
ɹ̩ | Sillafog | e̞ | Is | ||
e̯ | Ansillafog | e̘ | Bôn y tafod ymlaen | ||
ə˞ | Rhotig | e̙ | Bôn y tafod yn ôl |
- Lle y ceir pâr o symbolau, cynrychiola'r un ar y dde lafariad gron.
FfynonellauGolygu
- Emrys Evans. Termau Ieithyddiaeth. Aberystwyth. Coleg Prifysgol Cymru. 1987.
- Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. The Welsh Academy English-Welsh Dictionary. Caerdydd. Gwasg Prifysgol Cymru. 1995.
- Peter Wynn Thomas. Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd. Coleg Prifysgol Cymru. 1996.
Cysylltiadau allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol
- (Saesneg) Yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (fersiwn 2005)