Follas novas
Casgliad o gerddi mewn Galisieg gan Rosalía de Castro yw Follas novas (Dail newydd) a agraffwyd yn wreiddiol yn 1880. Dyma ei hail gasgliad yn y Galisieg, a'r olaf. Roedd Rosalía'n flaenllaw yn chwyldro diwylliannol Galisia, ac yn ei hiaith, symudiad a elwir yn Rexurdimento.
Sgwennwyd y rhan fwyaf o'r cerddi rhwng 1869-1870, pan fu ei theulu'n byw yn Simancas, Sbaen ond mae hefyd yn cynnwys peth gwaith o'r 1870au a gyhoeddwyd mewn papurau newydd.[1] Ystyrir y gyfrol hon yn glasur o fewn llenyddiaeth Galisiaidd.[2]
Mae'r casgliad yn cynnwys pum rhan neu lyfr: Vaguedás, Do íntimo, Varia, Da terra (O'r Ddaear) a As viuvas dos vivos e as viuvas dos mortos (Gweddwon y byw, gweddwon y meirw) .[1]
Dyma hefyd uchafbwynt gyrfa Castro, gan ei fod yn cynrychioli'r cyfnod rhwng Cantares gallegos (1863; mewn Galisieg) a'i nofel radical En las orillas del Sar (1884) a sgwennwyd mewn Sbaeneg. Mae Follas novas yn cynnwys cerddi rhamantaidd a barn am le merched o fewn y gymdeithas, yn ogystal â newid yn y boblogaeth yng Ngalisia a ddaeth oherwydd dirwasgiad economaidd.[1] Mae rhan ola'r llyfr, As viuvas dos vivos e as viuvas dos mortos, (Gweddwon y byw a gweddwon y meiw) am ferched a adawyd yng Ngalisia, wedi i'w gwŷr eu gadael i chwilio am waith.[3][4]