Frân Wen
cwmni theatr ym Mhorthaethwy
Mae Frân Wen (neu Cwmni'r Frân Wen) yn gwmni theatr i blant a phobl ifanc.
Enghraifft o'r canlynol | cwmni theatr |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1984 |
Pencadlys | Porthaethwy |
Gwefan | http://www.franwen.com/ |
Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1984 a chyrhaeddodd carreg filltir nodweddiadol yn ei hanes yn 2014 wrth ddathlu 30 mlynedd o ysbrydoli, herio a chyffroi plant a phobl ifanc.[1]
Mae cynyrchiadau diweddaraf y cwmni yn cynnwys Llyfr Glas Nebo (2020), Anweledig (2019) a Twrw Dan a Dicw (2018).
Wedi ei leoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, mae’r cwmni yn cyflwyno gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, a hynny mewn ysgolion, theatrau, canolfannau cymunedol a lleoliadau llai cyfarwydd fel traethau, siopau a chlybiau nos ar draws Gogledd Orllewin Cymru a thu hwnt.