Françoise Hardy

cantores o Ffrainc (1944–2024)

Canwr, cyfansoddwr ac actor o Ffrainc oedd Françoise Madeleine Hardy (17 Ionawr 1944 - 11 Mehefin 2024). Roedd hi'n adnabyddus yn bennaf am ganu baledi melancolaidd. Daeth Hardy i amlygrwydd yn y 1960au cynnar fel ffigwr blaenllaw yn y genre yé-yé. Canodd hefyd yn Saesneg, Eidaleg ac Almaeneg. Roedd ei gyrfa yn ymestyn dros fwy na hanner can mlynedd.

Françoise Hardy
GanwydFrançoise Madeleine Hardy Edit this on Wikidata
17 Ionawr 1944 Edit this on Wikidata
9fed bwrdeistref Paris, Paris Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mehefin 2024 Edit this on Wikidata
o canser breuannol, pharyngeal cancer Edit this on Wikidata
Ysbyty Americanaidd Paris, Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
Man preswyl16ain bwrdeistref Paris Edit this on Wikidata
Label recordioDisques Vogue, Philips Records, Pathé, Virgin Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Alma mater
  • Cyfandran Gelf Paris Edit this on Wikidata
Galwedigaethastroleg, canwr, cyfansoddwr caneuon, llenor, actor, canwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata
ArddullFrench pop, variety, chanson, ballade, bossa nova, Y twist, slow Edit this on Wikidata
Taldra1.72 metr Edit this on Wikidata
PriodJacques Dutronc Edit this on Wikidata
PlantThomas Dutronc Edit this on Wikidata
Gwobr/auVictoires de la Musique - Artist benywaidd y flwyddyn Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.francoise-hardy.com Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd Hardy ei geni yng Nghlinig Marie-Louise yn 9fed arrondissement Paris, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1][2][3] Ni wnaeth ei thad Étienne Dillard—gŵr priod a hanai o deulu llawer cyfoethocach—fawr ddim i helpu ei mam, Madeleine Hardy, yn ariannol.[3][4][5] Cododd Madeleine ei merched yn llym, mewn fflat gymedrol ar Rue d'Aumale. [3]

Rhwng 1952 a 1960, anfonwyd Hardy a'i chwaer bob haf i Awstria i ddysgu Almaeneg.[6] Yn fyfyrwraig ddisgybledig, pasiodd Hardy ei baccalauréat ym 1960 yn un ar bymtheg oed.[7] Fel anrheg, dewisodd gitâr, a dechreuodd ganu ei halawon ei hun gyda hi.[7] Cofrestrodd yn Sefydliad Astudiaethau Gwleidyddol Paris tra'n dal yn ei harddegau.[7] Ymunodd â'r Sorbonne i astudio Almaeneg.[8]


Dechreuodd canu ar lwyfan bach y Moka Club.[8] Aeth hi i Philips Records, ac argymhellwyd iddi gymryd gwersi canu.[8] Ymunodd Hardy â'r Petit Conservatoire de la chanson ym 1961, ysgol i berfformwyr radio, dan arweiniad y gantores Mireille Hartuch. Wedi'i lansio'n wreiddiol fel rhaglen radio yn 1955, trowyd y Petit Conservatoire yn sioe deledu boblogaidd gan ddechrau ym Mehefin 1960.[8][9]

Dechreuodd Hardy berthynas gyda chanwr arall, Jacques Dutronc, ym 1967, a bu llawer o gyhoeddusrwydd.[10][11] Ni wnaethant fyw gyda'i gilydd tan ar ôl genedigaeth eu hunig blentyn, Thomas, ar 16 Mehefin 1973.[12] Yn hydref 1974, symudodd Hardy a Dutronc i mewn gyda'i gilydd mewn tŷ tri llawr ger Parc Montsouris, gydag ystafelloedd gwely ar wahân.[12] Bob haf, symudodd y teulu i dŷ oedd yn eiddo i Dutronc yn Lumio, ar ynys Corsica.[12]

Fel ffigwr cyhoeddus, roedd Hardy yn adnabyddus am ei gonestrwydd ynglŷn â’i safbwyntiau gwleidyddol adain dde[13][14] oedd yn ddadleuol ar brydiau.[15]

Bu farw Hardy o ganser laryngaidd ym Mharis, yn 80 oed.[16] Cyn ei marwolaeth, roedd hi hefyd wedi cael sawl codwm gan dorri esgyrn.[16][17]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hardy, 2018 [2008], "One"
  2. "Françoise Hardy, la mélancolie en chansons". France Culture (yn French). 8 Hydref 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2021. Cyrchwyd 10 Mai 2021.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. 3.0 3.1 3.2 Quinonero, 2017, "«C'est ton enfance / Qui se promène à cloche-pied / Dans ta mémoire..."
  4. Dieu, Sarah (31 March 2021). "Françoise Hardy malade: ce que l'on sait sur sa santé" (yn French). L'Internaute. Cyrchwyd 10 May 2021.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. "Françoise Hardy – Biography". Radio France Internationale. March 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 April 2018. Cyrchwyd 27 October 2016.
  6. Quinonero, 2017, "Les étés autrichiens"
  7. 7.0 7.1 7.2 Hardy, 2018 [2008], "Two"
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 Quinonero, 2017, "«Un air de guitare..."
  9. Dartois, Florence (29 March 2021). "1962, Françoise Hardy, jeune espoir du "Petit conservatoire"" (yn French). INA. Cyrchwyd 21 May 2021.CS1 maint: unrecognized language (link)
  10. Waltersmoke (24 Mai 2014). "Françoise HARDY – Ma Jeunesse Fout Le Camp (1967)" (yn French). Forces Parallèles. Nightfall.fr. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai2021. Cyrchwyd 27 Mai 2021. Check date values in: |archivedate= (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  11. Quinonero, 2017, "«Le jour où tu voudras / Je serai là pour toi»"
  12. 12.0 12.1 12.2 Quinonero, 2017, "Thomas, l'enfant de l'amour"
  13. Hardy, 2017, "Décalages et dérapages"
  14. Guilbert, Georges-Claude (30 Mai 2018). Gay Icons: The (Mostly) Female Entertainers Gay Men Love (yn Saesneg). McFarland. tt. 85–86. ISBN 9781476674339. Cyrchwyd 1 Awst 2018.
  15. Sweeney, Philip (14 Mehefin 1996). "Arts: Don't talk to me about the Sixties". The Independent (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 January 2021. Cyrchwyd 15 Mai 2021.
  16. 16.0 16.1 "Françoise Hardy, icône de la culture pop, est morte" (yn French). Le Monde. 11 June 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2024. Cyrchwyd 11 June 2024.CS1 maint: unrecognized language (link)
  17. Beaumont-Thomas, Ben. "Françoise Hardy, French pop singer and fashion muse, dies aged 80". The Guardian (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2024. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.