Corsica

Ynys ym Môr y Canoldir yw Corsica neu Ynys Cors (Ffrangeg: Corse; Corseg ac Eidaleg: Corsica). Hi yw'r bedwaredd ymhlith ynysoedd Môr y Canoldir o ran arwynebedd; dim ond Sicilia, Sardinia, a Cyprus sy'n fwy. Saif i'r gorllewin o'r Eidal ac i'r gogledd o ynys Sardinia. Ajaccio yw'r brifddinas a sedd esgobaeth yr ynys.

Corsica
Corse-photosat.jpg
Coat of Arms of Corsica.svg
Mathrhanbarthau Ffrainc, un o wledydd tiriogaethol Ffrainc â statws arbennig, ardal ddiwylliannol Edit this on Wikidata
PrifddinasAjaccio Edit this on Wikidata
Poblogaeth349,465 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
NawddsantDevota Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Corseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolFfrainc Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica
Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd8,680 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.15°N 9.0833°E Edit this on Wikidata
FR-20R Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolExecutive Council of Corsica Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCorsican Assembly Edit this on Wikidata

Ystyrir Corsica yn un o 26 région Ffrainc. Ar 1 Ionawr 2017 newidiwyd ei statws i fod yn collectivité territoriale unique, gyda mwy o bwerau na'r régions eraill. Rhennir yr ynys yn ddau département, sef Corse-du-Sud a Haute-Corse.

Yn ogystal â Ffrangeg, siaredir iaith Corseg gan 30,000 o bobl ar yr ynys, a 125,000 yn dweud eu bod nhw'n medru rhywfaint o'r iaith [1].

Mae Corsica yn enwog fel man geni Napoleon. Roedd y boblogaeth yn 2015 yn 326,898.[1]

HanesGolygu

Gwladychwyd Corsica ers Oes Ganol y Cerrig (y cyfnod 'mesolithig') ac efallai cyn hynny. Concrwyd yr ynys gan y Carthagiaid rhywdro rhwng 7g CC a'r 3g CC ac yna'r Groegiaid a'r Etrwsciaid. Bu'n rhanbarth o Weriniaeth Rhufain ac yn dalaith Rhufeinig yn 238 CC, gyda Sardinia.[2] Yn ystod y cyfnod hwn, cynhyrchwyd ac allforiwyd defaid, cwyr, gwinoedd a mêl yn ogystal â chaethweision. Ystyriwyd y caethweision, fodd bynnag, yn anodd eu trin gan eu bod mor wyllt a rhyfelgar. Danfonwyd yr athronydd Seneca'r Ieuaf yno am gyfnod o alltudiaeth.[3]

Cyrhaeddodd Cristnogaeth yr ynys yn eitha cynnar, a hynny o Rufain a cheir yno olion y seintiau cynnar, gan gynnwys Devota ac Iwl o Ddefota (Santa Ghjulia mewn Corseg).

CenedlaetholdebGolygu

Ffurfiwyd clymblaid Pe a Corsicayn 2015 pan unwyd Femu a Corsica sy'n credu mewn mwy o hunanreolaeth, a Corsica Libera sy'n brwydro dros annibyniaeth lawn; cipiodd y glymblaid 45% o bleidleisiau dinasyddion Corsica mewn etholiad "rhanbarthol". Codwyd y duedd hon tuag at genedlaetholdeb yn etholiad cenedlaethol Mehefin 2017 pan etholwyd 3 allan o 4 'dirprwy' ac yn Rhagfyr 2017 cafodd Pe a Corsica 65% o'r pleidleisiau yn yr etholiad ar gyfer y Cynulliad, 41 o'r 63 sedd.[4]

Ffurfiwyd y glymblaid oherwydd i faciwm gael ei greu yn 2014 pan ddaeth Ffrynt Rhyddid Corsica (Corseg: Fronte di Liberazione Naziunale Corsu) i ben. Yn 2017 roedd Llywodraeth Corsica mewn trafodaethau gyda Pharis ynglŷn â'r hawl i ddeddfu, rhyddhau'r carcharorion gwleidyddol a statws gyflawn i'r Gorseg.[5]

 
Arwyddion ffyrdd a'r frwydr dros y Gorseg

CyfeiriadauGolygu

  1. INSEE. "Estimation de population au 1er janvier, par région, sexe et grande classe d'âge – Année 2013" (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2014-02-20.
  2. Bertarelli (1929), t.41
  3. Pais, Ettore (1999). Storia della Sardegna e della Corsica durante il periodo romano (yn Italian). Nuoro: Ilisso. tt. 76–77. ISBN 88-85098-92-4.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. naziogintza.eus; adalwyd 9 Ionawr 2017.
  5. golwg360.cymru; adalwyd 12 Ionawr 2017.