Francis Dodd
Roedd Francis Edgar Dodd RA (29 Tachwedd 1874 - 7 Mawrth 1949) yn arlunydd portreadau o Gymru, arlunydd tirluniau a gwneuthurwr printiau.
Francis Dodd | |
---|---|
Ganwyd | 29 Tachwedd 1874 Caergybi |
Bu farw | 7 Mawrth 1949 Blackheath |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Arddull | portread |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Dodd yng Nghaergybi, Ynys Môn, Cymru, yn fab i weinidog Wesleaidd. Hyfforddodd yn Ysgol Gelf Glasgow ochr yn ochr â Muirhead Bone a briododd â chwaer Dodd. Yn Glasgow, enillodd Dodd Ysgoloriaeth Haldane yn 1893 ac yna teithiodd o gwmpas Ffrainc, yr Eidal ac yn ddiweddarach Sbaen.[2] Dychwelodd Dodd i Loegr yn 1895 ac ymgartrefodd ym Manceinion, gan ddod yn ffrindiau gyda Charles Holden, cyn symud i Blackheath yn Llundain yn 1904.[2]
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1916, penodwyd ef yn artist rhyfel swyddogol gan Charles Masterman, pennaeth Biwro Propaganda'r Rhyfel, WPB. Yn gwasanaethu ar Ffrynt y Gorllewin, cynhyrchodd dros 30 o bortreadau o ffigurau milwrol uwch.[3] Fodd bynnag, enillodd enw da dros amser heddwch hefyd am ansawdd ei ddyfrlliwiau a'i gomisiynau portreadau. Fe'i penodwyd yn ymddiriedolwr Tate Gallery yn 1929, swydd a ddaliodd am chwe blynedd, ac fe'i hetholwyd yn Gydymaith yr Academi Frenhinol ym 1927 ac yn Aelod llawn yn 1935.[4]
O 1911 bu Dodd yn byw yn Arundel House (51 Blackheath Park) yn Blackheath, Llundain SE3, nes iddo gymryd ei fywyd ei hun ym 1949.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Francis Dodd (1917). Admirals of the British Navy. London: Country Life and George Newnes Ltd.
- ↑ 2.0 2.1 Mary Anne Stevens (1988). The Edwardians And After, The Royal Academy 1900-1950. Weidenfeld & Nicolson.
- ↑ Mallalieu, Huon (19 January 1991). "Home-front battle of the war artists". The Times. t. 17. Cyrchwyd 3 May 2013.
- ↑ "Mr. Francis Dodd". The Times. 10 March 1949. t. 7. Cyrchwyd 3 May 2013.
- ↑ Reade, Brian; rev. Ian Lowe (2004). "Dodd, Francis Edgar (1874–1949)". Oxford Dictionary of National Biography. Oxford University Press. doi:10.1093/ref:odnb/32847. Cyrchwyd 3 May 2013.