Caergybi
Caergybi (Saesneg: Holyhead) yw tref fwyaf Sir Fôn (efo poblogaeth o tua 12,000). Saif ar ochr orllewinol Ynys Gybi ar lan Bae Caergybi, sy'n fraich o Fôr Iwerddon. Mae'r dref yn borthladd mawr: mae sawl fferi yn teithio rhwng Caergybi a Dulyn a Dún Laoghaire yn Iwerddon. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn cychwyn ac yn gorffen yn y dref. Mae yna pont droed fodern yn cystylltu y porthlardd gyda'r gyda'r tref. Yng Nghaergybi, mae yna lawer o fwytai fel Standing Stones, KFC, McDonalds, a Jambos Chinese. Yn ogystal, mae yno lawer o siopau fel Tesco, Poundland, Wilkos, Pets at Home, New Look a Cancer Research wedi'u lleoli yn y dref.
![]() | |
Math |
tref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Cymuned Caergybi ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.32°N 4.63°W ![]() |
Cod OS |
SH2482 ![]() |
Cod post |
LL65 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | |
AS/au | |
HanesGolygu
Mae olion yn dyddio o 2000 C.C. ar gopa Caer y Twr gyda nifer o Gytiau Gwyddelod ar y llethrau deheuol. Mae'n amlwg bod masnach aur a bwyaill cerrig rhwng Prydain ac Iwerddon.
Roedd caer Rufeinig Caer Gybi ar y safle yma o ddiwedd y 3g. Bellach mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau'n dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr. Credir bod y gaer yma at ddefnydd llynges Rufeinig. Ym muchedd Sant Cybi mae cyfeiriad at frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu mynachlog.
GoleudaiGolygu
Ar ben Mynydd Twr adeiladodd y Rhufeiniaid y goleudy cyntaf yn yr ardal. Heddiw, nid oes ond y seiliau i'w gweld. Mae goleudai newydd yn gweithio ar Ynys Lawd (wrth y mynydd), trwyn y morglawdd (yn y porthladd), Ynys Halen (yn y porthladd) ac Ynysoedd y Moelrhoniaid yn bellach allan yn y môr, i'r gogledd.
Eisteddfod GenedlaetholGolygu
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaergybi ym 1927.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
CludiantGolygu
Caergybi yw man cychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, sy'n ei chysylltu â Crewe.
Mae cwmnïau fferi yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd rhwng Caergybi a Dulyn a Dún Laoghaire yn Iwerddon. Ceir nifer o fysus yn rhedeg yn ardal Caergybi sy'n ei chysylltu â llefydd eraill ar yr ynys. Y pwysicaf yw'r gwasanaethau i Fangor a Llangefni. Mae'r A55 yn dechrau yn y dref. Fel yr E22 Ewropeaidd mae'n cysylltu Caergybi ag Ekaterinburg yn Rwsia.
OrielGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Caergybi.com
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele