Frank Ash Yeo
Roedd Frank Ash Yeo (18 Awst 1832 – 4 Mawrth 1888) yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a gynrychiolodd etholaeth Gŵyr fel Aelod Seneddol
Frank Ash Yeo | |
---|---|
Ganwyd | 1832 |
Bu farw | 4 Mawrth 1888 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Yeo yn Bideford, Dyfnaint, yn fab i Thomas Yeo ac Elizabeth Woollacott ei wraig Cafodd ei addysgu yn ysgol leol Bideford cyn mynd ar daith addysgol i'r Almaen a Ffrainc.[1]
Bu'n briod ddwywaith; ei wraig gyntaf oedd Sarah ferch Richard Cory, Caerdydd a chwaer i Thomas Cory, bu iddynt fab a ddwy ferch, ond bu Sarah farw wrth roi genedigaeth i'r ferch ieuengaf ar 6 Mehefin 1863.[2]
Ym 1868 priododd ei ail wraig Mary merch George Dawson o South Allerton, Swydd Efrog a bu iddynt un mab ac un ferch.[3]
Gyrfa
golyguWedi dychwelyd i wledydd Prydain ym 1854 symudodd i Abertawe i weithio mewn partneriaeth gyda'i gefnder (ei frawd yng nghyfraith wedyn) Thomas Cory a oedd yn ddiwydiannwr amlwg yng Nghaerdydd ac Abertawe, gan sefydlwyd cwmni Corey, Yeo & Co, perchnogion glofeydd a chynhyrchwyr tanwydd patent.
Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Abertawe gan gadeirio'r Ymddiriedolaeth ym 1878 ac yr oedd yn gyfrifol am sicrhau gwella'r harbwr i sicrhau bod modd i'r llongau ager mawr newydd yr oedd yn berchennog arnynt yn cael defnyddio'r harbwr.
Roedd yn is gadeirydd Cymdeithas y Perchenogion Glofeydd ac yn gyfarwyddwr Cwmni Banc Abertawe
Gyrfa Wleidyddol
golyguYm 1874 cafodd Yeo ei ethol yn faer Abertawe gan ddefnyddio ei swydd i wella ansawdd tai'r dref ac i gau lawr puteindai yn ardal y dociau.
Yn etholiad cyffredinol 1885 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol etholaeth newydd Gŵyr gan dal y sedd hyd ei farwolaeth dim ond 3 mlynedd yn ddiweddarach.
Ym 1886 cafodd ei ethol yn Faer Abertawe am yr ail waith.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref Neuadd Sgeti, Abertawe ym 1888 yn 56 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent capel annibynnol y Sgeti[4]
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Gŵyr 1885 – 1888 |
Olynydd: David Randell |