Frank Hill
Roedd Algernon Frank Hill (13 Ionawr 1866 - 20 Ebrill 1927) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Gaerdydd.[1] Enillodd 15 cap dros Gymru dros gyfnod o ddeng mlynedd a chafodd gapteniaeth y tîm ar bedwar achlysur.
Frank Hill | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1866 Caerdydd |
Bu farw | 20 Ebrill 1927 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, swyddog gêm rygbi'r undeb, cyfreithiwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cefndir
golyguGanwyd Hill ym Mhenybryn, Caerdydd, yn blentyn i George Frederick Hill, cyfreithiwr, ac Elizabeth (née Fiddy) ei wraig, fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton, Bryste. Wedi gwneud ei erthyglau yn y gyfraith yn swyddfa ei dad cymhwysodd yn gyfreithiwr ym 1889.[2] Bu'n gweithio i gwmni ei dad hyd 1904 pan etifeddodd y cwmni ar farwolaeth ei dad, prif waith y cwmni oedd gwasanaethu fel ymgynghorydd cyfreithiol i gymdeithas tafarnwyr trwyddedig Caerdydd. Ym 1895 priododd Amy Pearce, merch Thomas Pearce, Caerfaddon.[3] Ni fu iddynt blant.
Bu farw yn ei gartref yn Llys-faen, ger Caerdydd yn 62 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Lansdown, Caerfaddon.[4]
Gyrfa Rygbi
golyguGyrfa clwb
golyguChwaraeodd Hill 153 o gemau i Gaerdydd. Chwaraeodd yn rheolaidd tan dymor 1886-7, ond yn y gêm ymarfer ym mis Medi tynnodd ei ben-glin o'i le, ac o ganlyniad bu'n rhaid iddo gymryd tymor o orffwys. Ym 1887-8 bu'n gwasanaethu fel is-gapten ac yn y tymor nesaf roedd yn gapten o'r tîm. Un o lwyddiannau mawr y tîm yn ystod ei gapteiniaeth oedd curo'r M͏͏͏͏͏͏͏͏͏͏͏͏͏āories. Bu'n rhaid iddo orffwys am ddau dymor arall oherwydd anaf, ond aeth yn ôl i'r pac yn nhymor 1892-3 gan chwarae ymlaen tan 1894-5 pan etholwyd ef eto yn gapten. Unwaith eto cafodd ei ben-glin ei dynnu o'i le, ac roedd ei ymddeoliad nesaf yn un parhaol. [5]
Wedi rhoi'r gorau i chwarae parhaodd Hill i wasanaethu Clwb Rygbi Caerdydd fel trysorydd y clwb. [5]
Gyrfa ryngwladol
golyguDewiswyd Hill gyntaf ar gyfer Cymru mewn gêm yn erbyn yr Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1885. O dan gapteiniaeth Charlie Newman o Gasnewydd, roedd y gêm yn gêm gyfartal di sgôr ddiflas a achoswyd gan ymdrechion Cymru i ladd y gêm ar unrhyw gyfle. Chwaraeodd Hill yn y ddwy gêm gartref ym Mhencampwriaeth 1886, ond ni chafodd ei ddewis yn ystod twrnamaint y flwyddyn olynol. Ym 1888 profodd Hill ei fuddugoliaeth ryngwladol gyntaf, pan oedd yn rhan o dîm Cymru a gurodd yr Alban yn Rodney Parade. Enillodd Cymru gydag un cais, a sgoriwyd gan Thomas Pryce-Jenkins yn yr hanner cyntaf cyn defnyddio'r un tactegau difetha a defnyddiwyd ganddynt ym 1885 i atal yr Alban rhag sgorio.
Ym mis Rhagfyr 1888, dewiswyd Hill i fod yn gapten ar Gymru yn erbyn tîm teithiol cyntaf Hemisffer y De i Brydain pan wynebodd Māoris Seland Newydd. Defnyddiodd Cymru'r system pedwar trichwarterwr yn ystod y gêm am y tro cyntaf ers ei hepgor wedi methiant y dacteg yn erbyn yr Alban ym 1886. Cymru oedd yn fuddugol a chafodd Hill y gapteniaeth ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1889 yn erbyn yr Alban. Collodd Cymru'r gêm a disodlwyd Hill ar gyfer gêm olaf y tymor i Iwerddon gan Daniel Griffiths. Adenillodd Hill ei safle a'i gapteniaeth yng ngêm gyntaf twrnamaint 1890, er iddo golli'r gêm oddi cartref i Loegr. Pan gafodd ei ail-ddewis ar gyfer gêm olaf y bencampwriaeth, pasiwyd y gapteniaeth i Arthur Gould.
Methodd Hill y ddau dwrnamaint nesaf, cyn chwarae twrnamaint cyfan 1893 a welodd Cymru yn ennill eu holl gemau i gipio'r Goron Driphlyg am y tro cyntaf. Y tymor nesaf oedd un olaf Hill fel chwaraewr rhyngwladol. Er mai dim ond un o'r tîm a enillodd y Goron Driphlyg y flwyddyn cynt cafodd ei gollwng, nid oedd y tîm yn gytûn. Syrthiodd Gould a Hill allan dros dactegau sgrymio yn erbyn Lloegr, gan beri i Hill weithio yn erbyn arweinydd pac ei hun, [6] Jim Hannan, gan arwain at fuddugoliaeth enfawr yn Lloegr. Roedd gêm olaf Hill yn golled i Iwerddon ym Melfast, lle cafodd Hill y gapteniaeth.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [7]
- Lloegr 1886, 1893, 1894
- Iwerddon 1888, 1890, 1893, 1894
- Māori 1888
- yr Alban 1885, 1886, 1888, 1889, 1890, 1893, 1894
Fel dyfarnwr
golyguYm 1889 dyfarnodd Hill y cyfarfyddiad rhwng Prifysgol Rhydychen a Māoris Seland Newydd ar daith. [8]
Llyfryddiaeth
golygu- Billot, John (1972). All Blacks in Wales. Ferndale: Ron Jones Publications.
- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrecsam: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Player – Frank Hill". CR Cerdydd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ "CARDIFF - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1889-11-18. Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ "MARRIAGE OF MR FRANK HILL". Jones & Son - South Wales Echo. 1895-06-06. Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ "Old Welsh Rugby Player's Death" Western Daily Press 25 Ebrill 1927 tud 9
- ↑ 5.0 5.1 "Mr Frank Hill - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-09-15. Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ Griffiths (1987), tud 4:7.
- ↑ Smith (1980), tud 466.
- ↑ Maoris v. Oxford paperspast.natlib.govt.nz