Llofrudd cyfresol Seisnig oedd Frederick Walter Stephen West (29 Medi 19411 Ionawr 1995).[1] Ynghyd â'i ail wraig Rosemary West, arteithiodd a threisiodd nifer o ferched a gwragedd ifainc, gan lofruddio o leiaf 11 ohonynt rhwng 1967 ac 1987. Ymysg y merched a lofruddiwyd roedd aelodau o'i deulu ei hun. Digwyddodd nifer o'r llofruddiaethau o amgylch dinas Caerloyw, yn 25 Heol Midland ac yn hwyrach ar 25 Stryd Cromwell, gyda nifer o'r cyrff yn cael eu claddu yn neu'n agos i'r cartrefi hyn.

Fred West
GanwydFrederick Walter Stephen West Edit this on Wikidata
29 Medi 1941 Edit this on Wikidata
Much Marcle Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ionawr 1995 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
HM Prison Birmingham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethllofrudd cyfresol, gweithiwr adeiladu Edit this on Wikidata
PriodRosemary West Edit this on Wikidata

Llofruddiodd Fred o leiaf dau berson cyn dechrau cydweithio â Rose, tra bod Rose wedi llofruddio llysferch Fred (merch fiolegol ei wraig gyntaf) pan yr oedd ef yn y carchar am ddwyn. Digwyddodd y mwyafrif o lofuddiaethau rhwng Mai 1973 ac Awst 1979, yn eu cartref yn 25 Stryd Cromwell.

Arestiwyd y ddau a dygwyd achos yn eu herbyn yn 1994. Cymerodd Fred West ei fywyd ei hun cyn dechrau'r achos llys, ond charcharwyd Rose West am oes yn Nhachwedd 1995, wedi iddi gael ei ffeindio'n euog o 10 achos o lofruddiaeth. Dymchwelwyd eu cartref ar Stryd Cromwell yn 1996 a newidiwyd y safle'n llwybr cerdded yn cysylltu Stryd Cromwell Street i Sgwâr San Michael.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Genedigaeth, priodasau a marwolaethau Cymru a Lloegr - Gorffennaf 1996