Frederick Hawksworth
Prif beirianydd Rhanbarth Gorllewinol o'r Rheilffyrdd Prydeinig oedd Frederick Hawksworth (10 Chwefror 1884 – 13 Gorffennaf 1976).
Frederick Hawksworth | |
---|---|
Ganwyd | 10 Chwefror 1884 Swindon |
Bu farw | 13 Gorffennaf 1976 Swindon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | peiriannydd, dylunydd locomotif |
Cyflogwr |
|
Fe'i ganwyd yn Swindon ac aeth o i Ysgol Heol Sanford. Dechreuodd ar brentisiaeth efo Rheilffordd y Great Western yn Swindon ym 1898. Symudodd i swyddfa arlunio ym 1905 a daeth yn gynorthwyydd i'r prif ddylunydd ym 1923, a phrif ddylunydd ym 1925.
Ar ôl ymadawiad Syr William Stanier, daeth Hawksworth yn gynorthwyydd i'r prif beiriannydd, Charles Collett ym 1932, a chymerodd drosodd o Collett ym 1941, ynghanol yr Ail Ryfel Byd ac oedd ei gyfleuon i greu ei locomotifau ei hun yn gyfyngedig. Cynlluniodd locomotifau 4-6-0 o'r dosbarth 'County'.
Gwladolwyd y rheilffyrdd ym 1948, a dewisodd bwrdd Rheilffyrdd Prydeinig peirianyddwyr o Reilffordd Llundain, y Canolbarth a'r Alban. Roedd o'n brif beirianydd y Rhanbarth Gorllewinol hyd at 1949 cyn ymddeol.[1] Bu farw yn Swindon ar 13 Gorffennaf 1976.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan swindonweb.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-23. Cyrchwyd 2016-10-17.