Sefydlwyd Institusjonen Fritt Ord (Norwyeg, yn golygu Sefydliad Rhyddid Mynegiant; enw Saesneg swyddogol: Freedom of Expression Foundation), y cyfeirir ato fel rheol fel Fritt Ord, yn Oslo, Norwy ar 7 Mehefin 1974 er mwyn hyrwyddo a diogelu rhyddid mynegiant i lenorion, ysgrifenwyr ac artistiaid yn gyffredinol.[1] Mae Fritt Ord yn gweithio yn bennaf yn Norwy ei hun ond mewn achosion arbennig mae'n gweithio yn erbyn sensoriaeth mewn gwledydd eraill hefyd. Y Cadeirydd ar hyn o bryd yw'r Athro Francis Sejersted, hanesydd ym Mhrifysgol Oslo.[2]

Fritt Ord
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu7 Mehefin 1974 Edit this on Wikidata
Prif weithredwrKnut Olav Åmås Edit this on Wikidata
SylfaenyddJens Henrik Nordlie, Jens Christian Hauge Edit this on Wikidata
Gweithwyr11 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolstiftelse Edit this on Wikidata
CynnyrchGwobr Fritt Ord, Free Media Awards, Fritt Ords honnør Edit this on Wikidata
PencadlysOslo Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://frittord.no/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pencadlys Fritt Ord yn Oslo.

Prif amcan Fritt Ord yw amddiffyn a hyrwyddo rhyddid mynegiant a'r amgylchiad i fwynhau hynny yn Norwy, yn enwedig trwy hyrwyddo a chefnogi dadleuon agored a'r hawl diymwad i bawb fynegi eu barn. Yn ogystal, mae'n cefnogi agweddau eraill ar ddiwylliant Norwy. Mae'n rhoi dwy wobr flynyddol, sef y Wobr Rhyddid Mynegiant a'r Deyrnged Rhyddid Mynegiant, ac yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol i brosiectau arbennig, naill ai o'i benderfyniad ei hun neu ar gais gan eraill.[3]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu