Norwyeg
iaith Germanaidd Gogleddol a siaredir yn Norwy
Norwyeg (norsk) | |
---|---|
Siaredir yn: | Norwy |
Parth: | Ewrop |
Cyfanswm o siaradwyr: | 4.7 miliwn |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 111 |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Germaneg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Norwy |
Rheolir gan: | Cyngor Iaith Norwy("Språkrådet") |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | no |
ISO 639-2 | nor |
ISO 639-3 | nor |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith swyddogol Norwy ac un o'r ieithoedd Germanaidd gogleddol ydy'r Norwyeg. Fe'i siaredir gan tuag at 4,7 miliwn o bobl yn Norwy. Mae hi'n perthyn i is-grŵp gorllewinol y gangen, ynghyd a'r Islandeg, y Ffaröeg a'r iaith farw Norn a siaradwyd yn yr oesoedd Orkney a Shetland hyd at y 18g.
Mae dwy ffurf swyddogol yr iaith ysgrifenedig: bokmål (iaith llyfrau) a nynorsk (Norwyeg newydd). Mae bokmål yn deillio o ffurfiau Daneg a siaradwyd yn ninasoedd Norwy pan oedd y gwlad yn perthyn i Denmarc. Ffurf a greuwyd yn y 19g gan Ivar Aasen ar sylfaen tafodieithoedd byw Gorllewin Norwy ydy nynorsk.
Enghreifftiau
golyguCymraeg | Iaeth Llyfrau | Norwyeg Newydd | |
---|---|---|---|
Person cyntaf yn unigol | Fi | Jeg | Eg |
Ail berson yn unigol | Ti | Du | Du |
Trydydd person yn unigol | Fo/Hi | Han/Hun/Det | Han/Ho/Det |
Person cyntaf lluosog | Ni | Vi | Me |
Ail berson lluosog | Chi | Dere | De |
Trydydd person lluosog | Nhw | De | Dei |
Cymraeg | Iaeth Llyfrau | Norwyeg Newydd |
---|---|---|
Wyf i | Jeg er | Eg er |
Wyt ti | Du er | Du er |
Yw e | Han er | Han er |
Yw hi | Hun er | Ho er |
Yw hi | Det er | Det er |
Ydyn ni | Vi er | Me er |
Ydych chwi | Dere er | De er |
Ydynt nhw | De er | Dei er |
Cymraeg | Iaeth Llyfrau | Norwyeg Newydd |
---|---|---|
Dwi'n ddysgu Norwyeg | Jeg lærer norsk | Eg lærer norsk |
... ydw i | Jeg heter ... | Eg heiter ... |