From Aberystwyth with Love
Nofel dditectif Saesneg gan Malcolm Pryce yw From Aberystwyth with Love a gyhoeddwyd gan Bloomsbury Publishing yn 2009. Yn 2019 roedd y gyfrol allan o brint.[1] Mae teitl y nofel yn cyfeirio yn chwareus at y nofel am yr asiant cudd James Bond, From Russia with Love (1957), gan Ian Fleming, a addaswyd yn 1963 fel ffilm.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Malcolm Pryce |
Cyhoeddwr | Bloomsbury Publishing |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 15 Mai 2009 |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9780747595199 |
Genre | Nofel Saesneg |
Cyfres | Louie Knight Mysteries |
Disgrifiad byr
golyguMae'n fis Awst crasboeth yn Aberystwyth: y bandstand yn toddi, y Pier dan ei sang, ac mae Sospan y gwerthwr hufen iâ yn arbrofi gydag ambell flas newydd, amheus. Mae dyn yn gwisgo iwnifform curadur amgueddfa Sofietaidd yn cerdded mewn i swyddfa Louie Knight ac yn gwau stori wyllt am gariad, marwolaeth, gwallgofrwydd a thwyll.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 17 Ebrill 2019