Malcolm Pryce
Awdur Saesneg yw Malcolm Pryce (ganwyd ym 1960), sy'n ysgrifennu nofelau ditectif noir yn arddull Raymond Chandler.
Malcolm Pryce | |
---|---|
Ganwyd | 1960 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Pryce yn yr Amwythig, cyn symyd i Aberystwyth yn naw oed, lle mynychodd Ysgol Gyfun Penglais yn diweddarach. Arhosodd yno hyd iddo gwblhau ei arholiadau Lefel A. Astudiodd Almaeneg ym Mhrifysgol Warwick a Phrifysgol Freiburg cyn gadael i fynd i deithio.[1]
Tra'n teithio bu'n gweithio yn ffatri BMW yn yr Almaen, ac fel golchwr llestri. Ar ôl gyrfa fer fel "gwerthwr aliwminiwm gwaetha'r byd", bu Pryce yn ysgrifennwr copi yn y byd hysbysebu yn Llundain a Singapôr. Roedd e'n byw yn Bangkok, Gwlad Tai, rhwng 2001 a 2007, cyn iddo symud i Rydychen.
Lleolir y mwyafrif o'i nofelau yn Aberystwyth, ond mewn rhyw fydysawd arall lle mae derwyddon yn troseddu, lle mae bechgyn y dref yn diflannu mewn amgylchiadau rhyfedd, a lle mae gan y dref ddiwydiant ffilm, yn cynhyrchu ffilmiau 'Beth Welodd y Bwtler'. Arwr y straeon yw Louie Knight, ditectif preifat gorau tref Aberystwyth, ac yr unig dditectif preifat yn Aberystwyth...
Llyfrau
golygu- Aberystwyth Mon Amour (Bloomsbury Publishing, 2001)
- Last Tango in Aberystwyth (Bloomsbury Publishing, 2003)
- The Unbearable Lightness of Being in Aberystwyth (Bloomsbury Publishing, 2005)
- Don't Cry for Me Aberystwyth (Bloomsbury Publishing, 2007)
- From Aberystwyth with Love (Bloomsbury Publishing, 2009)
- The Day Aberystwyth Stood Still (Bloomsbury Publishing, 2011)
- The Case of the "Hail Mary" Celeste: The Case Files of Jack Wenlock, Railway Detective (Bloomsbury Publishing, 2015)
- The Corpse in the Garden of Perfect Brightness (Bloomsbury Publishing, 2020)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ What is it about Aberystwyth?. Malcolm Pryce. Adalwyd ar 17 Ebrill 2019.