Albwm cyntaf y Super Furry Animals ydy Fuzzy Logic. Rhestrwyd yn 'Albymau Prydeinig Gorau Erioed' Q Magazine yn Mehefin 2004, ac yn eu 'Britpop 10 Uchaf Erioed' yn Rhagfyr 1996. Mae'n cynnwys dau sengl a gyrrhaeddodd yr 20 uchaf yn y siart, If You Don't Want Me to Destroy You a Something 4 the Weekend; mae hefyd yn cynnwys y senglau God! Show Me Magic, a ymddangosodd mewn sawl gêm Pêl-droed Clwb ar gyfer Playstation 2, a Hometown Unicorn. Cyrrhaeddodd yr albwm rhif 23 yn y siartiau Prydeinig pan ryddhawyd.

Fuzzy Logic
Clawr Fuzzy Logic
Albwm stiwdio gan Super Furry Animals
Rhyddhawyd 22 Mai 1996
Recordiwyd 1996
Genre Roc, britpop
Hyd 43:47
Label Creation
Cynhyrchydd Gorwel Owen a'r Super Furry Animals
Cronoleg Super Furry Animals
Moog Droog
(1995) (EP)
Fuzzy Logic
(1996)
Radiator
(1997)

Daw'r enw o derm mathamategol sy'n disgrifio termau sy'n hawdd iw deallt gan ddyn ond nid mor hawdd i gyfrifiaduron ddeallt.

Mae Fuzzy Logic yn nodedig am ei glawr, sydd wedi ei gyfansoddi o amryw o luniau o'r smyglwr cyffuriau rhyngwladol, Howard Marks, mae teyrnged iddo yn y trac Hangin' with Howard Marks. Yn ganlyniad, fe ddaeth y band yn ffrindiau gyda Marks yn ddiweddarach, mae Marks hefyd yn cyfeirio atynt yn ei hunangofiant, Mr Nice.

Ail-ryddhawyd yr albwm yn 2005, gyda ail ddisg bonws yn cynnwys traciau ychwanegol a gafodd eu recordio tua'r un adeg a'r albwm.

Traciau golygu

  1. God! Show Me Magic - 1:50
  2. Fuzzy Birds - 2:27
  3. Something For the Weekend - 2:50
  4. Frisbee - 2:21
  5. Hometown Unicorn - 3:33
  6. Gathering Moss - 3:22
  7. If You Don't Want Me to Destroy You - 3:17
  8. Bad Behaviour - 4:26
  9. Mario Man - 4:07
  10. Hangin (gyda Howard Marks) - 4:20
  11. Long Gone - 5:20
  12. For Now and Ever - 3:32

CD Bonws golygu

  1. "Organ yn Dy Geg" – 2:56
  2. "Crys Ti" – 1:56
  3. "Lazy Life (Of No Fixed Identity)" – 2:15
  4. "Death by Melody" – 2:32
  5. "Waiting to Happen" – 2:34
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.