Fy Hen Lyfr Cownt


Nofel fer ar ffurf dyddiadur gan Rhiannon Davies Jones yw Fy Hen Lyfr Cownt (Gwasg Aberystwyth, 1961). Dyma'r gyfrol a ddaeth â'i hawdures i amlygrwydd pan enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960.

Fy Hen Lyfr Cownt
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Prif gymeriad y nofel yw'r emynyddes enwog Ann Griffiths, "Y Ferch o Ddolwar Fach" ym Maldwyn, Powys. Mae'r "llyfr cownt", sef dyddiadur ysbeidiol (a dychmygol) yr emynyddes am y cyfnod o 1796 hyd 1805. Mae'r llyfr yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng 1796 a 1799, adeg o gyffro mawr yng Nghymru a gweddill Ewrop oherwydd digwyddiadau'r Chwyldro Ffrengig. Ond er bod hynny'n rhoi cyd-destun ehangach i'r nofel, ei phrif thema yw teimladau a phrofiadau'r ferch ifanc (Ann Thomas cyn ei phriodi) a'r hyn a'i hysbrydolodd i ddechrau cyfansoddi emynau.

Yn ôl y beirniad Stephen J. Williams:

Fe lwyddodd... i ail-greu byd Ann Thomas (Griffiths) o'r defnyddiau sy'n hysbys ac yn gredadwy, ac o'i darfelydd artistig ei hun, gan ddynodi'n gynnil risiau pererindod ysbrydol yr emynyddes.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Fy Hen Lyfr Cownt (Gwasg Aberystwyth, 1961), rhagair.