Fyny Gyda'r Swans

Llyfr Cymraeg am bêl-droed am Owain Tudur Jones ganddo ef ei hun ac Alun Gibbard yw Fyny Gyda'r Swans sy'n un o gyfrolau'r gyfres Stori Sydyn. Gwasg Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2009. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

Fyny Gyda'r Swans
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurOwain Tudur Jones ac Alun Gibbard
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi20 Chwefror 2009 Edit this on Wikidata
PwncCofiannau
Argaeleddallan o brint
ISBN9781847711151
Tudalennau72 Edit this on Wikidata
GenreLlyfrau ffeithiol
CyfresCyfres Stori Sydyn

Disgrifiad byr golygu

Cyffro bywyd pêl-droediwr gyda'r 'Swans', y cyfryngau a charfan Cymru yw ei themau. Roedd arwyddo i'r Swans yn freuddwyd i Owain Tudur Jones, yn arbennig wrth ennill clod a dyrchafiad o dan Roberto Martinez. Un a wireddodd y freuddwyd honno yw Owain Tudur Jones, a gafodd ei hun yn rhan o’r Bencampwriaeth gyda’r Swans ac yn aelod o garfan Cymru.

Ceir isafbwyntiau hefyd, fel gorfod eistedd ar y fainc yn ystod gêm ar ôl gêm. Ac mae’r rhwystredigaeth hynny yn rhan o fywyd Owain hefyd.

Yn y gyfrol, a ysgrifennwyd gyda chymorth Alun Gibbard, mae Owain yn adrodd ei hanes oddi ar ei lencyndod gyda chlwb Bangor hyd at y foment wefreiddiol pan arwyddodd gytundeb proffesiynol gyda’r Swans. Mor hawdd fyddai iddo ramanteiddio. Ond, na. Dengys, yn hytrach, mor gul yw'r ffin rhwng llwyddiant a methiant.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  • Daw rhan o'r testun uchod o wefan Gwales; awdur: Lyn Ebenezer.