Owain Tudur Jones
Cyn chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Owain Tudur Jones (ganwyd 15 Hydref 1984). Chwaraeodd i Dinas Abertawe, Norwich City, Inverness Caledonian Thistle, Hibernian a Falkirk yn ogystal ag ennill 7 cap dros dîm cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Owain Tudur Jones[1] | ||
Dyddiad geni | 15 Hydref 1984 | ||
Man geni | Bangor, Cymru | ||
Taldra | 1.91m | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Hibernian | ||
Rhif | 17 | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2000–2001 | Porthmadog | 10 | (0) |
2001–2005 | Dinas Bangor | 96 | (24) |
2005–2009 | Dinas Abertawe | 44 | (3) |
2009 | → Swindon Town (benthyg) | 11 | (1) |
2009–2011 | Norwich City | 5 | (1) |
2010 | → Yeovil Town (benthyg) | 6 | (1) |
2010 | → Yeovil Town (benthyg) | 14 | (1) |
2011 | → Brentford (benthyg) | 6 | (0) |
2011–2013 | Inverness Caledonian Thistle | 48 | (2) |
2013–2014 | Hibernian | 14 | (0) |
2014-2015 | Falkirk | 4 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2005–2006 | Cymru dan 21 | 3 | (0) |
2008– | Cymru | 7 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 10:17, 15 Medi 2014 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Ei daid yw Geraint V. Jones.[2]
Uwch Gynghrair Cymru
golyguYmunodd Tudur Jones â Dinas Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru o glwb Porthmadog yn y Gynghrair Undebol yn 2001 ac yn ei bedwar tymor gyda Bangor chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2002 ac yn Nhlws Intertoto yn 2002 yn erbyn Gloria Bistrita o Romania.
Dinas Abertawe
golyguWedi cyfnod ar brawf gyda Dinas Abertawe yn ystod haf 2005, ymunodd Jones â'r clwb am £5,000[3]. Yn ystod ei dymor llawn cyntaf fel chwaraewr proffesiynol, gwnaeth 21 o ymddangosiadau a sgoriodd dair gôl. Llwyddodd hefyd i wneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm dan-21 Cymru. Ar ôl pedair mlynedd gyda'r Swans, a chyfnod ar fenthyg â Swindon Town yn 2008/09, symudodd Jones i Norwich City am ffi oddeutu £250,000[4].
Norwich City
golyguGwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf yn y golled 7-1 yn erbyn Colchester ar ddiwrnod agoriadol tymor 2009/10 a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb ar 18 Awst 2009 mewn buddugoliaeth 2-1 dros Brentford[5].
Methodd a sicrhau ei le yn rheolaidd yn nhîm Norwich City ac ar ôl cyfnodau ar fenthyg gyda Yeovil Town a Brentford, symudodd i'r Alban ac Inverness Caledonian Thistle yn 2011[6].
Inverness Caledonian Thistle
golyguGwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Inverness mewn colled 1-0 yn erbyn Hibs ond yn gynnar wedi'r gêm gyntaf, dioddefodd anaf i'w ben-glîn fyddai'n golygu ei fod angen llawdriniaeth[7]. Collodd chwe mis o'r tymor wrth wella o'i anaf ond sicrhaodd estyniad i'w gytundeb ym mis Mehefin 2012[8].
Hibernian
golyguYm mis Mai 2013, symudodd i Gaeredin er mwyn ymuno â Hibernian[9] ond ar ôl cael ei ryddhau gan Hibs, ymunodd â Falkirk ym mis Medi 2014.[10]
Ar 6 Mawrth 2015, wedi brwydro yn erbyn anaf arall, cyhoeddodd Jones ei fod yn ymddeol o bêl-droed[11].
Rhyngwladol
golyguGwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Mai 2008[12].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Search 1984 to 2006 – Birth, Marriage and Death indexes". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2014-05-22.
- ↑ Owain Tudur Jones: From football field to battlefield , Daily Post, 7 Mai 2016.
- ↑ "Tudur Jones given year Swans deal". BBC Sport. 2005-07-30.
- ↑ "Tudur Jones seals Norwich switch". 2009-06-16. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Brentford 2 – 1 Norwich". BBC Sport. BBC. 2009-08-18.
- ↑ "Inverness land Owain Tudur Jones from Norwich". 2011-07-28. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Caley Thistle's Owain Tudur Jones faces surgery". BBC Sport. BBC. 2-11-08-17. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Owain Tudur Jones agrees new Inverness deal". BBC Sport. BBC. 25 June 2012. Cyrchwyd 2012-06-25.
- ↑ "Wales midfielder joins Hibernian". 2013-05-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-12. Cyrchwyd 2014-05-22. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Owain Tudur Jones signs for Falkirk". 2014-09-04. Unknown parameter
|published=
ignored (help)[dolen farw] - ↑ "Twitter: Owain T Jones". 2015-03-06. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Luxembourg v Wales Welsh Football Online". 2008-03-26. Unknown parameter
|published=
ignored (help)