Mae Gŵyl Pontardawe yn ŵyl flynyddol o gerddoriaeth byd eang, gwerin a dawns, sy'n cael ei gynnal pob mis Awst.

Gŵyl Pontardawe
Enghraifft o'r canlynolgŵyl Edit this on Wikidata

Trefnir yr ŵyl gan wirfoddolwyr ar sail dim-elw. Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol ers 1978, oni bai am blwyddyn traed a genau, 2001. Yn y flwyddyn honno cynhaliwyd gŵyl bychan yn nhafarnau Pontardawe. Pan cychwynnwyd yr ŵyl yn 1978 roedd tua 70 gŵyl cerddoriaeth pob blwyddyn ar draws y byd. Erbyn 2000 roedd dros 700 o wyliau cerddoriaeth ym Mhrydain yn unig pob blwyddyn.

Bu Gŵyl Pontardawe yn ŵyl pwysig iawn yn cael ei gyfrif yn y pum gŵyl orau ym Mhrydain yn ystod yr 80au. Collodd yr ŵyl ei cyllid Cyngor Celfyddydau yn ystod cyfnod y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012 - fe aeth yr ŵyl yn ei flaen gan golli cryn dipyn o arian. Fe aeth cwmni yr ŵyl i'r wal yn fethdalwr. Ers hynny mae yr ŵyl wedi bod yn ŵyl stryd yn unig gyda bandiau yn y tafarnau ac yn y Ganolfan Celfyddydau yn unig.