Is-iarllaeth Cobham

Mae Is-iarllaeth Cobham yn deitl ym Mhendefigaeth Prydain Fawr. Crewyd yn 1718 ar gyfer Maeslywydd Syr Richard Temple, 4ydd Barwnig, Stowe. Deilir yr Is-iairll deitlau atodol Barwn Cobham, o Cobham yn Swydd Caint, (1718), Barwn Westcote, o Ballymore yn Swydd Longford (1776), a Barwn Lyttelton, o Frankley yn Swydd Gaerwrangon (1794). Mae'r holl deitlau ym Mhendefigaeth Prydain Fawr, heblaw barwniaeth Westcote, sydd yn Mhendefigaeth Iwerddon. Mae'r Is-iarll Barwnig, o Frankley yn Swydd Gaerwrangon (1618).

Roedd Barwniaeth a'r Is-iarllaeth Cobham yn is-deitlau i Iarllaeth Temple rhwng 1750 a 1784, o Ardalyiaeth Buckingham rhwng 1784 a 1822 ac o Ddugiaeth Buckingham a Chandos rhwng 1822 a 1889. Ers y flwyddyn diwethaf o'r teitlau, cyfunwyd hwy gyda Barwniaeth Lyttelton a Barwniaeth Westcote.

Hanes golygu

 
Richard Temple, Is-iarll 1af Cobham

Mae'r teulu Temple yn ddisgynyddion Peter Temple o Burton Dassett. Sefydlodd ei fab ifengaf, Anthony Temple, cangen Gwyddeleg y teulu, o ble mae Is-ieirll Palmerston yn ddisgynyddion. Daeth ei fab hynaf, John Temple, yn berchen ar ystad Stowe yn Swydd Buckingham, a daeth ei fab ef Thomas Temple, i gynyrchili Andover yn y Senedd. Yn 1611 crewyd ef yn Farwnig Stowe yn Swydd Buckingham, ym Marwnigaeth Lloegr. Cynyrchiolodd ei fab ef, yr ail Farwnig, Buckingham yn y Senedd Fer and a'r Senedd Hir. Olynwyd ef gan ei fab, y trydydd Barwnig. Eisteddodd yn y Senedd dros Swydd Warwick a Buckingham.

Roedd ei fab ef, y pedwrydd Barwnig (yn y llun), yn filwr a gwleidydd o nôd. Yn 1714, codwyd ef i Bendefigaeth Prydain Fawr fel Barwn Cobham, o Cobham yn Swydd Caint, gyda rhelyw iw ddisgynyddion gwrywaidd. Pedair mlynedd yn ddiweddarach, crewyd ef yn Is-iarll Cobham, gyda rhelyw iw ddisgynyddion gwrywaidd, ac yna iw chwaer Hester Temple a'i disgynyddion gwrywaidd hi, yna i'w drydydd chwaer, y Bonesig Christian, gwraig Syr Thomas Lyttelton, 4ydd Barwnig, Frankley (gweler Barwniaeth Lyttelton). Bu farw'r Arglwydd Cobham yn ddi-blant a golynwyd ef yn y barwnigaeth gan ei gefnder, y pumed Barwnig, hen-wyr Syr John Temple, ail fab y Barwnig cyntaf. Aeth y Barwnigaeth yn gwsg yn 1786 ar farwolaeth y seithfed Barwnig. Wedi marwolaeth Arglwydd Cobham, dath Barwniaeth 1714 yn ddiflanedig tra golynwyd ef i'r barwniaeth a'r is-iarllaeth o 1718, yn ôl y rhelyw arbennig. gan ei chwaer Hester Temple. Roedd hi'n wraig weddw Richard Grenville. Yn 1751 crewyd hi'n Iarlles Temple ym Mhendefigaeth Prydain Fawr, gyda rhelyw iw disgynyddion gwrywaidd. Mab ifengaf y Bonesig Temple oedd y Prif Weinidog George Grenville.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Mae sedd y teulu yn Hagley Hall, ger Stourbridge yn Swydd Gaerwrangon.

Aelod arall o'r teulu Grenville oedd y Prif Weinidog William Wyndham Grenville, Barwn 1af Grenville. Roedd yn fab i George Grenville ac yn fab ifengaf Ardalyddes Buckingham. Aelod arall o'r teulu Lyttelton oedd y Bonheddig Alfred Lyttelton, roedd ef yn wythfed fab i'r pedwerydd Barwn Lyttelton. Ei fab ef oedd y Gwleidydd Oliver Lyttelton, Is-iarll 1af Chandos. Aelod arall oedd y cerddor jazz Humphrey Lyttelton, roedd e'n fab i'r llenor a'r athro George William Lyttelton, ail fab wythfed Is-iarll Cobham.

Barwnigion Temple, Stowe (1611) golygu

Is-ieirll Cobham (1718) golygu

Ieirll Temple (1751) golygu

Ardalyddion Buckingham (1784) golygu

Dugiau Buckingham a Chandos (1822) golygu

Is-iarll Cobham (1718; Dychwelwyd) golygu

Yr etifeddwr fydd mab yr Is-iarll presennol, Oliver Christopher Lyttelton (ganed 1976)

Gweler Hefyd golygu

Dolenni Allanol golygu

Ffynonellau golygu