Gabriel Miró
Llenor rhyddiaith Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Gabriel Miró Ferrer (28 Gorffennaf 1879 – 27 Mai 1930) sydd yn nodedig am ei ysgrifau, straeon byrion, a nofelau yn yr arddull modernaidd.
Gabriel Miró | |
---|---|
Ganwyd | Gabriel Francisco Víctor Miró y Ferrer 28 Gorffennaf 1879 Alicante |
Bu farw | 27 Mai 1930 Madrid |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, gwas sifil |
Mudiad | Generation of 1914 |
Gwobr/au | Mariano de Cavia' Price, Chronicler of the City of Barcelona |
llofnod | |
Bywgraffiad
golyguGaned yn Alicante, Valencia, yn Nheyrnas Sbaen. Mynychodd ysgol yr Iesuwyr yn Orihuela o 1886 i 1891, ac yna yr ysgol uwchradd nes 1896. Astudiodd y gyfraith ym mhrifysgolion Granada a Valencia, a derbyniodd ei radd ym 1900. Priododd Miró â Clemencia Maignon, merch y conswl Ffrengig yn Alicante, ym 1901, a chawsant ddwy ferch, Olympia a Clemencia.[1]
Aeth Miró i Barcelona ym 1914 i weithio'n newyddiadurwr ac i gymdeithasu â llenorion eraill. Symudodd i Fadrid ym 1920 i weithio yn y weinyddiaeth addysg,[1] ac ym 1922 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd y Concursos Nacionales de Letras y Artes. Bu farw ym Madrid yn 50 oed.[2]
Gweithiau llenyddol
golyguYsgrifennodd sawl gwaith ar bynciau crefyddol, gan gynnwys y nofelau Nuestro padre San Daniel (1921) ac El obispo leproso (1926) a'r gyfrol Figuras de la pasión del Señor (1916). Ysgrifennodd gyfres o lyfrau yn ymwneud â bywyd ei fro enedigol o safbwynt y mynach Sigüenza, hunan arall yr awdur. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r nofelau La novela de mi amigo (1908) a Nómada (1908). Nodweddir ei ysgrifeniadau gan arddull cywrain a chymhleth a chyfoeth o eirfa greadigol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Gabriel Miró Ferrer" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar 18 Medi 2020.
- ↑ (Saesneg) Gabriel Miró. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2020.