Gaeltacht Uíbh Ráthaigh
Gaeltacht Uíbh Ráthaigh neu, gwelir hefyd, Gaeltacht Iveragh gyda'r sillafiad Saesneg, yw un o'r Gaeltachtau lleiaf yn Iwerddon. Fe'i lleolir ar Benrhyn Uíbh Ráthaigh yn Swydd Ciarraí a'r brif dref yw Baile an Sceilg ac mae pentrefi a threfdiroedd llai yn cynnwys Dún Géagáin, Cíllin Liath, Lóthar a Cuan an Chaisleáin. Mae ei phoblogaeth yn wasgaredig ac yn ôl Cyfrifiad 2016, roedd 1,753 o bobl dros dair oed yn byw yn Gaeltacht Uíbh Ráthaigh, gyda dim ond 6.9% yn honni eu bod yn siarad Gwyddeleg yn ddyddiol y tu allan i’r system addysg.[1] Mae hyn yn ei gwneud y 5ed Gaeltacht gwannaf allan o 26 yn Iwerddon yn ôl cyfradd y siaradwyr dyddiol. Ceir Gaeltacht arall yn Swydd Ciarraí sef, Gaeltacht Corca Dhuibhne.
Enghraifft o'r canlynol | Gaeltacht |
---|---|
Iaith | Gwyddeleg |
Roedd Gaeltacht Uíbh Ráthaigh yn un o'r cryfaf yn y wlad ar un adeg. Roedd pobl o bob dosbarth yn siarad yr iaith, gyda dros 93% o'r boblogaeth yn siarad Gwyddeleg uniaith yn y 1850au.[2] Dynodwyd y Penrhyn cyfan yn Gaeltacht pan gawsant eu tynnu gyntaf yn y 1920au.[3] Erbyn yr 1980au roedd canran y bobl a oedd yn gallu siarad Gwyddeleg yn ardal swyddogol y Gaeltacht a dynnwyd ym 1956[4] tua 60% ac mae wedi aros tua'r lefel honno ers hynny.[5]
Argymhellodd astudiaeth ieithyddol gynhwysfawr o'r Gaeltachtau a gyhoeddwyd yn 2007 y dylid categoreiddio Gaeltacht Uíbh Ráthaigh fel Gaeltacht Dosbarth C.[6]
Mae canran y siaradwyr dyddiol ynghyd â’r boblogaeth wedi bod yn gostwng yn gyson. Rhwng 1956 a 2011 gostyngodd poblogaeth Gaeltacht Iveragh o 3,036 i 1,795. Gostyngiad o 41%. Mae hyn er gwaethaf cynnydd o 67% ym mhoblogaeth Iwerddon o fewn yr un amserlen. Mae llawer o'r trefi yng nghanol y penrhyn lle mae llawer o'r Gaeltacht wedi'u lleoli yn anghyfannedd. Mae diffyg gwasanaethau sylfaenol yn cael ei nodi fel un o'r prif resymau dros y gostyngiad dramatig yn y boblogaeth a thrwy estyniad yn y boblogaeth sy'n siarad Gwyddeleg. Mae'n debyg fod diffyg nifer o gael ysgolion yn yr ardal yn rheswm arall dros ddirywiad yr iaith Wyddeleg.
Comhchoiste Ghaeltacht Uíbh Ráthaigh
golyguMae “Comhchoiste Ghaeltacht Uíbh Ráthaigh” yn grŵp cymunedol a sefydlwyd yn 1998 i weithredu fel ymbarél ar gyfer y grwpiau datblygu yn y 5 ardal Gaeltacht ar Benrhyn Iveragh. Mae'r mudiad yn ymwneud â llawer o bethau gan gynnwys hyrwyddo'r Wyddeleg a datblygu prosiectau cymunedol.[2] Mae swyddfa'r corff yn Caherciveen, sydd yn Ceann Eich rhwng Baile an Sceilg a Waterville.[7]
Tref Wasanaethau'r Gaeltacht
golyguTref Tralee sydd â statws 'Tref Wasanaethu'r Gaeltacht' i'r Gaeltacht wledig. Gydag hynny, mae digwyl i'r ddinas roi cefnogaeth arbennig ar gyfer darpariaeth yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos.
Gweler hefyd
golygu- Gaeltacht Corca Dhuibhne - Gaeltacht arall Swydd Ciarraí
Oriel
golygu-
Cofeb mewn Gwyddeleg ar y pier yn Baile an Sceilg
-
Panorama o Baile an Sceilg a Waterville
-
Oriel a Chaffe, Baile an Sceilg
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Irish Language and the Gaeltacht - CSO - Central Statistics Office". www.cso.ie (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ 2.0 2.1 "Gaeltacht". Visit Ballinskelligs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ Ni Bhrádaigh, Emer; McCarron, Stephen; Walsh, John; Duffy, Patrick (January 2007). "Using gis to map the evolution of the gaeltacht" (yn en). Irish Geography 40 (1): 99–108. doi:10.1080/00750770709555889. ISSN 0075-0778. http://www.tandfonline.com/doi/abs/10.1080/00750770709555889.
- ↑ Book (eISB), electronic Irish Statute. "electronic Irish Statute Book (eISB)". www.irishstatutebook.ie (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ O'Keeffe, Brendan; O'Sullivan, Shane (2017), "Gaeltacht Uíbh Ráthaigh – Prófíl Dhéimeagrafach agus Socheacnamaíochta Socio-Economic and Demographic Profile. Údarás na Gaeltachta", Gaeltacht Uíbh Ráthaigh – Prófíl Dhéimeagrafach agus Socheacnamaíochta Socio-Economic and Demographic Profile. Údarás na Gaeltachta (1), https://dspace.mic.ul.ie/bitstream/handle/10395/2115/U%c3%adbh%20R%c3%a1thach%20Profile%20March%202017%20FINAL%20Print.pdf?sequence=2&isAllowed=y
- ↑ Giollagáin, Conchúr Ó; Donnacha, Seosamh Mac; Chualáin, Fiona Ní; Shéaghdha, Aoife Ní; O’Brien, Mary (2007). "Comprehensive linguistic study of the use of Irish in the Gaeltacht: principal findings and recommendations". The Department of Community, Rural and Gaeltacht Affairs: 60. https://www.cogg.ie/wp-content/uploads/Linguistic-Study-of-the-Use-of-Irish-in-the-Gaeltacht.pdf.
- ↑ "Language Plan for South Kerry". Comhchoiste Ghaeltacht Uíbh Ráthaigh. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2024.[dolen farw]