Gaeltacht Corca Dhuibhne
Lleolir Gaeltacht Corca Dhuibhne ar ben gorllewinol penrhyn An Daingean (Dingle) yn Swydd Ciarraí, Iwerddon. Mae ychydig dros 50% o'r trigolion yn siarad Gwyddeleg. Mae'n ymestyn o Afon an Scáil i Dún Chaoin ac o'r Clochán i dref An Daingean (Dingle yn Saesneg). Pentrefi'r ardal yw Abhainn an Scáil, Lios Póil, Daingean Uí Chúis, Ceann Trá, Dún Chaoin, Baile an Fheirtéaraigh, Baile na nGall a'r Clochán. Mae rhwng 6,000-7,000 o bobl yn byw yn y rhanbarth ac mae dros 3,000 yn siarad Gwyddeleg.
Math | Gaeltacht |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Kerry |
Gwlad | Cymru |
Mae Gaeltacht Corca Dhuibhne yn un o ddau Gaeltacht yn y sir: y llall yw Gaeltacht Uíbh Ráthaigh (Gaeltacht Iveragh yn Saesneg) sydd i'r gorllewin o Mór Chuairde (The Ring of Kerry).[1]
Mae'r brodorion yn siarad Gwyddeleg talaith Munster. Un o nodeddion y dafodiaeth yw bod 'mh' a 'bh' fel 'f' Gymraeg. Gelwir yr iaith Wyddeleg, ar lafar yn 'Gaelainn' yn hytrach na'r gair safonol, 'Gaeilge'.[2]
Mae'r Gaeltacht yn lleoliad i ddau sefydliad o bwys ym myd y Wyddeleg, sef:
- RTÉ Raidió na Gaeltachta - lleolir stiwdio ranbarthol radio genedlaethol iaith Wyddeleg, RTÉ Raidió na Gaeltachta yn Baile na nGall.
- Coláistí Chorca Dhuibhne - mae'r coleg ("Coleg Corca Dhuibhne") yn ganolfan neu wersyll ar gyfer pobl o bob oed, ond yn enwedig pobl ifanc, i ddysgu Gwyddeleg. Gellir ei chymharu, dyweder, â Gwersyll yr Urdd Llangrannog yng Nghymru. Mae'r coleg yn rhoi gwersi dysgu a gloywi iaith a hefyd adloniant sy'n cyflwyno diwylliant y Wyddeleg.[3]
Enw
golyguMae'r enw Corca Dhuibhne (Hen Wyddeleg: Corcu Duibne) yn golygu "had llwyth Duibhne"[4] (duwies oedd Duibhne). Roedd yn deyrnas nodedig yn Sir cynhanesyddol a chanoloesol Kerry, Iwerddon a oedd yn cynnwys Penrhyn Dingle, Penrhyn Iveragh a thiroedd cysylltiol.
Tref Wasanaethau'r Gaeltacht
golyguTref fechan Cathair Saidhbhín (Cahersiveen) ers 2023[5] sydd â statws 'Tref Wasanaethu'r Gaeltacht' i'r Gaeltacht wledig. Mae tref fwy Trá Lí hefyd yn Dref Wasanaethu. Gydag hynny, mae disgwyl i'r ddinas roi cefnogaeth arbennig ar gyfer darpariaeth yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Explore Gaeltacht Areas". Gwefan Discover Kerry. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2024.
- ↑ "Irish Language Q&A Special - Gaelainn Chorca Dhuibhne". Bitesize Irish. 18 Mai 2022.
- ↑ "Summer 2024 Irish Courses". Coláistí Chorca Dhuibhne. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2024.
- ↑ "Ireland's Dingle Peninsula Tourism, April 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mawrth 2007. Cyrchwyd 14 Ionawr 2015.
- ↑ "Cathair Saidhbhín Language Plan officially launched by Minister of State O'Donovan". 15 Mehefin 2023.
Dolenni allanol
golygu- Corca Dhuibhne Fideo ar sianel Youtube Dáithí de Mórdha (2016)
- Corca Dhuibhne Gaeltacht Coleg haf ar gyfer dysgu Gwyddeleg
- Irish Language and the Gaeltacht Gwybodaeth ar wefan am benrhyn An Daingean