Gafsa
Dinas yn Nhiwnisia yw Gafsa (hefyd Qafsah; Arabeg: قفصة), sy'n brifddinas talaith Gafsa. Amcangyfrifir fod tua 90,000 o bobl yn byw ynddi, sy'n ei gwneud y ddinas 9fed fwyaf yn Tiwnisia.
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 111,170 |
Gefeilldref/i | Napoli, Palma de Mallorca |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gafsa |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 45 km² |
Uwch y môr | 297 metr |
Cyfesurynnau | 34.42°N 8.78°E |
Cod post | 2100 |
Dinas ddiwydiannol ydyw, sy'n ganolfan i'r diwydiant mwyngloddio ffosffad. Bu'n ddinas Rufeinig a cheir olion baddonai Rhufeinig yno. Mae'n gorwedd 369 km i'r de-orllewin o Diwnis.
Yn Ionawr 2008 bu gwrthdystio ar raddfa helaeth yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Ben Ali yn Gafsa. Gelwir hyn yn "wrthryfel" gan rai. Ni chafodd ei grybwyll o gwbl gan gyfryngau Tiwnisia. Dywedir fod y llywodraeth wedi cymryd camrau llym yn erbyn y protestwyr.[1]