Agor y brif ddewislen

Servius Galba Caesar Augustus neu Galba (24 Rhagfyr 3 CC15 Ionawr 69 OC) oedd chweched Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Servius Sulpicius Galba. Roedd yn un o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).

Galba
Stockholm - Antikengalerie 4 - Büste Kaiser Galba.jpg
Ganwyd 22 Rhagfyr 0003 CC, 24 Rhagfyr 0005 CC Edit this on Wikidata
Terracina Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Ionawr 0069, Ionawr 0069 Edit this on Wikidata (Gweithredydd < annisgwyl oed)
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swydd ymerawdwr Rhufain, Ancient Roman senator, consul of the Roman Empire, Roman governor Edit this on Wikidata
Tad Gaius Sulpicius Galba Edit this on Wikidata
Mam Mummia Achaica Edit this on Wikidata
Priod Aemilia Lepida Edit this on Wikidata
Llinach Sulpicia gens Edit this on Wikidata

Ganed Galba yn Tarracina, o deulu bonheddig. Yn ystod teyrnasiad Caligula daeth yn bennaeth ar fyddin Germania Superior. Cymerodd ran yng ngoresgyniad Prydain dan Claudius. Dan yr ymerawdwr Nero daeth yn Rhaglaw ar dalaith Hispania Tarraconensis yn Sbaen. Pan laddodd Nero ei hun yn 68 OC wedi gwrthryfel yn ei erbyn, penderfynodd y Senedd alw Galba i fod yn ymerawdwr.

Roedd Galba yn 71 oed ac yr oedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Roedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Roedd Marcus Salvius Otho wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymeradwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef gan Otho.

Rhagflaenydd:
Nero
Ymerawdwr Rhufain
8 Mehefin 68 OC15 Ionawr 69 OC
Olynydd:
Otho
She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato