Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr

Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr oedd y flwyddyn 69 OC, pan fu pedwar ymerawdwr yn teyrnasu yn Rhufain: Galba, Otho, Vitellius a Vespasian.

Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr
Enghraifft o'r canlynolrhyfel cartref Edit this on Wikidata
Dyddiad69 Edit this on Wikidata
Rhan oList of Roman civil wars and revolts Edit this on Wikidata
Lleoliadyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Vespasian; yr olaf o'r pedwar ymerawdwr.

Dechreuodd y flwyddyn gyda Galba yn ymerawdwr. Roedd wedi ei enwi'n ymerawdwr gan Senedd Rhufain yn dilyn hunanladdiad Nero y flwyddyn flaenorol. Roedd Galba'n oedrannus a heb blant, felly roedd angen iddo enwi etifedd. Roedd Otho wedi disgwyl cael ei enwi'n etifedd, ond mabwysiadodd Galba Calpurnius Piso Licinianus fel mab a'i enwi'n etifedd. Ymatebodd Otho trwy gynllwynio gyda milwyr o Gard y Praetoriwm i wrthryfela yn erbyn Galba. Bu'r gwrthryfel yn llwyddiannus, a lladdwyd Galba a Piso. Cyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr.

Yn y cyfamser roedd y llengoedd yn yr Almaen wedi cyhoeddi Vitellius yn ymerawdwr, a byddin gref wedi cychwyn tua Rhufain i ennill yr orsedd iddo. Cyfarfu'r ddwy fyddin yng ngogledd yr Eidal, a gorchfygwyd llengoedd Otho gan fyddin Vitellius ym Mrwydr Gyntaf Bedriacum. Lladdodd Otho ei hun, a daeth Vitellius yn ymerawdwr.

Y rhannau o'r ymerodraeth oedd yn cefnogi pob ymgeisydd

Nid oedd llengoedd Judea a Syria yn barod i dderbyn Vitellius fel ymerawdwr, a chyhoeddasant Vespasian, oedd yn ymladd y Gwrthryfel Iddewig yn Judea, yn ymerawdwr. Cychwynnodd byddin tua Rhufain, ond cyn iddynt gyrraedd gwelodd M. Antonius Primus ei gyfle, a pherswadiodd lengoedd Moesia i gefnogi Vespasian. Arweiniodd Primus ei fyddin tua'r Eidal, ac yn Ail Frwydr Bedriacum gorchfygodd fyddin Vitellius. Aeth ymlaen i gipio Rhufain, a lladdwyd Vitellius yn fuan wedyn.

Yn wahanol i'w ragflaenwyr, llwyddodd Vespasian i gadw yr orsedd hyd ei farwolaeth, a dilynwyd ef gan ei fab Titus.

Cymerodd llwyth y Batafiaid fantais ar ddigwyddiadau'r flwyddyn i wrthryfela yn erbyn Rhufain dan arweiniad Gaius Julius Civilis. Gallasant ddinistrio rhai llengoedd Rhufeinig a pherswadio llengoedd eraill i ochri gyda hwy yn erbyn Rhufain. Wedi i Vespasian ddod yn ymerawdwr, gyrrwyd byddin dan Quintus Petillius Cerialis i roi terfyn ar y gwrthryfel.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Gwyn Morgan 69 AD: the Year of Four Emperors' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006)