Cynrychiolydd neu ddirprwy brenin neu frenhines yw Rhaglaw (Ffrangeg: Viceroy), person sy'n rheoli darn o dir ar ran rhywun o awdurdod uwch. Defnyddiwyd y term yn gyntaf yn Nhiriogaethau Aragón yn 14g a chyfeiriai at lywodraethwyr y Sbaenwyr yn Sardinia a Chorsica.[1]

Mae'r enw 'Castell Rhaglan' yn sir Fynwy, yn deillio o'r hen enw Castell y Rhaglaw, gan ei fod yn gartref i un o uwch-swyddogion Brenin Lloegr yng Nghymru. Cofnodwyd y term yn gyntaf yn Gymraeg yn Llyfr Iorwerth yn y 13g: Ac odyna doet er effeyryat ar e raglau a dywedet rygaffael y kubyl.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "viceregal". OxfordDictionariesOnline.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-30. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2014.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 19 Chwefror 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.