Iaith Romáwns sy'n perthyn yn agos i Bortiwgaleg a siaredir yng Nghymuned Ymreolaethol Galisia yw Galiseg[1] (galego) a rhywfaint yn Asturias a Castile a León. Fel pob un o'r ieithoedd Romáwns mae'n perthyn i'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd ac yn 2012 roedd 2.4 miliwn o bobl yn ei siarad (58% o boblogaeth Galisia).[2] Ceir llawer o eirfa Ieithoedd Germanaidd a [[:en:https://en.wikipedia.org/wiki/List_of_Galician_words_of_Celtic_origin%7CBrythoneg[dolen marw]]] ynddi.

Fel iaith swyddogol gyntaf Galisia, fe'i defnyddir yn helaeth ym meysydd gweinyddiaeth, addysgol a masnach yn y Gymuned ac fe'i haddysgir i bob plentyn.

O 2007 ymlaen, roedd hi'n bosib astudio Galisieg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "Galician".
  2. "Observatorio da Lingua Galega". Observatorio da Lingua Galega. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-22. Cyrchwyd 2015-10-17.
 
Wikipedia
Argraffiad Galiseg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd