Mae Galisia (Galisieg: Galicia; Galiza[1], Sbaeneg Galicia), yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel Catalonia ac Euskadi (sef Gwlad y Basg).

Galisia
Cabo Ortegal (Spain).jpg
Escudo de Galicia.svg
Math Cymunedau ymreolaethol Sbaen, historical nationality, Cenedl, ardal ddiwylliannol Edit this on Wikidata
Prifddinas Santiago de Compostela Edit this on Wikidata
Poblogaeth 2,708,339 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 28 Ebrill 1981 Edit this on Wikidata
Anthem Os Pinos Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Alberto Núñez Feijóo Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Wakayama Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
galisieg, Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sbaen, Kingdom of Galicia Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd 29,574 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Cefnfor yr Iwerydd, Môr Cantabria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Braga, Vila Real, Asturias, Castilla y León, Viana do Castelo, Bragança Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.05°N 8.13°W Edit this on Wikidata
ES-GA Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Xunta de Galicia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Parliament of Galicia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of the Xunta of Galicia Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Alberto Núñez Feijóo Edit this on Wikidata

Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i Bortiwgaleg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae Pedro Pardo de Cela (c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Ystyrir Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990) yn Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen.

Roedd Rosalía de Castro (1837 – 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Caneuon Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia. Un o brif ffigyrau eraill Galisia yw Castelao (1886 – 1950) a oedd yn arweinydd y mudiad cenelaethol, ysgrifennwr, arlunydd, cartwnydd, dramodydd a doctor.

Cysylltiad CeltaiddGolygu

Mae Galisia yn cael ei hystyried fel gwlad Geltaidd am ei gysylltiadau Celtaidd hanesyddol.

Enw un o brif glybiau pêl-droed y wlad yw Celta de Vigo (Celtiad Vigo) ac mae cerddoriaeth draddodiadol Galisia yn cynnwys offerynnau Celtaidd fel y pibgod.

Mae Os Pinos - anthem genelaethol y wlad yn cyfeirio at Galisia fel ‘Cenedl Beogán’. Roedd Breogán (Breoghan, Bregon neu Breachdan)[2] yn arwr yn hanes Celtaidd. Mae’r llyfr Gwyddelig Lebor Gabála Érenn [3](Llyfr llafar Iwerddon) o’r canoloesol yn cyfeirio at Breogán a’i disgynyddion yn teithio i Galisia a sefydlu dinas Brigantia (A Coruña heddiw). Mae cerflun modern enfawr o Beogán yn sefyll yn A Coruña yn edrych tua'r môr ac Iwerddon


Prif drefi GalisiaGolygu

Yn economaidd, mae Galisia yn dibynnu i raddau helaeth ar amaethyddiaeth a physgota. Mae twristiaeth hefyd yn elfen bwysig, ac mae miloedd o bererinion yn cyrchu i Santiago de Compostela bob blwyddyn ar hyd y Camino de Santiago.

OrielGolygu

Dinasoedd a threfi mawrionGolygu

Y prif ddinasoedd yw: Vigo, A Coruña, Ourense, Lugo, Santiago de Compostela (y brifddinas), Pontevedra a Ferrol.

Yr ardaloedd mwyaf poblog yw:

  • Vigo-Pontevedra – 660,000
  • A Coruña-Ferrol – 640,000
Rhestr dinasoedd a threfi yn Galisia yn ôl poblogaeth
Tref/Dinas Rhanbarth Poblogaeth (2013) Tref/Dinas Rhanbarth Poblogaeth (2013)
1 Vigo Pontevedra 294,997   11 Carballo A Coruña 31,303
2 A Coruña A Coruña 244,810   12 Arteixo A Coruña 30,482
3 Ourense Ourense 106,905   13 Redondela Pontevedra 30,006
4 Lugo Lugo 98,007   14 Culleredo A Coruña 29,207
5 Santiago de Compostela A Coruña 95,207   15 Ames A Coruña 28,852
6 Pontevedra Pontevedra 82,946   16 Ribeira A Coruña 27,699
7 Ferrol A Coruña 70,389   17 Cangas Pontevedra 26,121
8 Narón A Coruña 39,450   18 Marín Pontevedra 25,864
9 Vilagarcía de Arousa Pontevedra 37,621   19 Cambre A Coruña 23,649
10 Oleiros A Coruña 34,470   20 Ponteareas Pontevedra 23,561


Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Fraga, Xesús (2008-06-08). "La Academia contesta a la Xunta que el único topónimo oficial es Galicia". La Voz de Galicia. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)
  2. "Breogán" (yn en), Wikipedia, 2020-01-13, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Breog%C3%A1n&oldid=935528972, adalwyd 2020-10-24
  3. "Lebor Gabála Érenn" (yn en), Wikipedia, 2020-10-18, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Lebor_Gab%C3%A1la_%C3%89renn&oldid=984132599, adalwyd 2020-10-24


Cymunedau ymreolaethol Sbaen
Cymunedau Ymreolaethol AndalucíaAragónAsturiasYnysoedd BalearigCantabriaCastilla-La ManchaCastilla y LeónCataloniaComunidad ValencianaCymuned Ymreolaethol Gwlad y BasgExtremaduraGalisiaComunidad de MadridMurciaNavarraLa RiojaYr Ynysoedd Dedwydd
Dinasoedd ymreolaethol CeutaMelilla