Gambit y Frenhines wedi'i dderbyn
Mae Gambit y Frenhines wedi'i dderbyn yn un o ddau Agoriad Gwyddbwyll sy'n boblogaidd yn Agoriad Gambit y Frenhines. Dyma brif linell yr agoriad hwn ar ôl
- 1.d4 d5
- 2.c4
Mae du yn cipio Gwerinwr gwyn gan chwilio am gêm agored a chyffrous. (2...d5xc4 ) | Mae gwyn yn datblygu Marchog y Brenin, gan ddyblu ei reolaeth dros d4 ac e5. (3.Mf3 ) | Mae du hefyd yn datblygu Marchog y Brenin, i atal e4, a pharatoi i Gastellu. (3...Mf6) |
Mae Amrywiaeth Glasurol Gambit y Frenhines wedi'i dderbyn yn arwain at weld gwyn yn cipio'r Gwerinwr Gambit, a chreu sefyllfa gyfartal o ran pwyntiau ar symudiad 5. Gall ceisio amddiffyn y Gwerinwr Gambit arwain at broblemau mawr i du.
Mae gwyn yn chwarae e3 i gefnogi Gwerinwr d4, ac agor llwybr i'w Esgob Gwyn. (4.e3) | Mae du hefyd yn ymateb gydag e6 i fygwth sgwar d5, ac agor llwybr i'w Esgob Du.(4...e6) | Mae gwyn yn cipio'r Gwerinwr Gambit ac yn datblygu ei Esgob. (5.Exc4) |
Crynodeb
golygu- 1.d4 d5
- 2.c4 d5xc4
- 3.Mf3 Mf6
- 4.e3 e6
- 5.Exc4